Mwy o Newyddion

RSS Icon
30 Rhagfyr 2016

Rhaglen arloesol yn gwneud gwahaniaethau cadarnhaol

MAE Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru Sarah Rochira wedi dweud ei bod yn edrych ymlaen at weld y “gwahaniaeth cadarnhaol a wnaed” wedi i blant meithrin dreulio amser gyda phobl hŷn fel rhan o raglen S4C sy’n archwilio gofal rhwng cenedlaethau.

Mae Hen Blant Bach, a gafodd ei ddarlledu ar 28 Rhagfyr, yn fformat ffeithiol newydd sydd wedi datblygu ar y cyd â Sony Pictures Television ac yn dod â dwy genhedlaeth annhebygol at ei gilydd i rannu eu gofal dydd mewn canolfan ar gyfer pobl hŷn yng Nghaernarfon

Mewn prosiect cymdeithasol unigryw, fe grëwyd lleoliad dros dro ar gyfer plant meithrin ac oedolion hŷn i rannu amser, lle a gweithgareddau.

O dan lygaid barcud tîm o seicolegwyr o Brifysgol Bangor, gwelwyd beth sy’n digwydd pan mae’r bwlch oedran yn cael ei bontio – a’r effeithiau trawsnewidiol sy’n bosib.

Fel rhan o’r arbrawf, treuliodd plant o ysgol feithrin Parciau wythnos yng nghanolfan ddydd Maesincla gan gymdeithasu, bwyta a chymryd rhan mewn gweithgareddau gyda’r bobl hŷn.

Gyda chamerâu wedi eu gosod mewn mannau arbennig roedd hi’n bosib gwrando ar bob sibrwd a gwylio pob symudiad wrth i’r ddau grŵp ddod yn un.

Gyda chynnydd ym mhoblogaeth pobl hŷn, y pwysau sydd ar arian cyhoeddus a chostau gofal plant, does ryfedd bod ymchwil cynyddol i mewn i ffyrdd newydd o ddarparu gofal.

Mae Sarah Rochira, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, yn credu y gallai mentrau rhwng cenedlaethau fod o fudd i bawb.

Meddai: “Mae mentrau sy’n pontio’r cenedlaethau yn cynnig ystod eang o fanteision i’n cymunedau, a gall pobl hŷn ac iau gynnig llawer iawn i’w gilydd drwy siarad, rhannu eu profiadau, cael hwyl gyda’i gilydd, dysgu oddi wrth ei gilydd a rhoi cymorth i’r naill a’r llall.

Yn 84 oed, mae Glyn Hughes o Gaernarfon yn ymwelydd cyson â chanolfan ddydd Maesincla ac fe gafodd brofiad dirdynnol yng nghwmni’r plant.

O ganlyniad i strôc pymtheg mlynedd yn ôl, tydi lleferydd Glyn ddim yn dda iawn.
Oherwydd hynny mae’n mynd yn rhwystredig ac yn gwylltio gyda’i hun yn aml. 

Er bod staff wedi Maesincla yn poeni sut y bydda’r plant yn ymateb i Glyn, cafodd pawb eu siomi ar yr ochor orau.

Fel yr esbonia seicolegydd Prifysgol Bangor, Dr Catrin Hedd Jones: “Mae’r rhaglen yn tynnu sylw at y manteision cymdeithasol o ofal rhwng cenedlaethau.

“Mae pobl hŷn yn cael y cyfle i rannu sgiliau gydol oes a mwynhau cwmni plant mewn amgylchedd cefnogol.”

Ond nid y bobl hŷn yn unig sy’n cael budd o’r prosiect, yn ôl Dr Nia Williams, un arall o’r seicolegwyr o Brifysgol Bangor: “O safbwynt y plant, roedd y profiad dri diwrnod yn hynod o werthfawr.

“Nid yn unig yr oedd oeddem yn gweld y plant yn datblygu perthynas gadarnhaol gyda’r henoed, sydd yn sgil bywyd pwysig ynddo’i hun, ond roeddem hefyd yn eu gweld eu hyder yn tyfu."

“Roedd y canlyniadau’n rhyfeddol gan ein bod ni’n gweld newid positif go iawn yn y bobl hŷn yn ystod yr wythnos,” meddai Arwyn Evans o gwmni Darlun a gyd-gynhyrchodd y rhaglen gyda Clare Jones.

“Gyda chymdeithas sy’n heneiddio a chost gofal plant yn rhoi pwysau ar deuluoedd ifanc, fe all gofal rhwng cenedlaethau fod yn chwyldroadol yn ein cymdeithas.”

• Hen Blant Bach. Ar alw: s4c.cymru; BBC iPlayer a llwyfannau eraill.

Llun: Glyn Hughes yn cyfarfod un o'r plant bach

Rhannu |