Mwy o Newyddion

RSS Icon
30 Rhagfyr 2016

Journey’s End a Born to Kill i ymuno â rhestr gynyddol o ddramâu gradd A sy’n cael eu ffilmio yng Nghymru

Mae blwyddyn wych Cymru o gynhyrchu teledu a drama yn dod i ben ar nodyn uchel gyda newyddion bod dwy ddrama gyffrous arall wedi dewis Cymru fel lleoliad ffilmio yn ôl Ken Skates, Gweinidog yr Economi.

Mae Journey’s End yn ffilm hir sy’n seiliedig ar ddrama glasurol R. C. Sherriff, sydd wedi ei gosod  yn y ffosydd yn 1918.  Mae’r gwaith ffilmio yn Stiwdio Pinewood yng Nghaerdydd newydd orffen.

Mae’n dilyn grŵp bychan o filwyr wrth iddynt aros am ymosodiad y gelyn ac am eu marwolaeth anorfod. 

Mae’r cynhyrchiad yn cynnwys enwogion amrywiol gan gynnwys Sam Claflin, Paul Bettany, Toby Jones ac Asa Butterfield. Cafodd ei addasu gan Simon Reade a’i gyfarwyddo gan Saul Dibb, sydd hefyd yn gyfrifol am y ffilmiau  Suite Francaise, The Duchess a Bullet Boy.

Yn y cyfamser, mae ffilmio Born to Kill, cyfres arswyd newydd Sianel 4 gan gynhyrchwyr Line of Duty, World Productions, hefyd wedi dechrau yng Nghaerdydd.  

Mae Born to Kill yn cynnwys Romola Garrai (The Hour, Suffragette) a Daniel Mays (Made in Dagenham, Line of Duty, Rogue One: A Star Wars story) fel rhieni sengl dau sydd yn eu harddegau, ac sydd allan o reolaeth.

Dyma’r comisiwn cyntaf ar gyfer Tracey Malone (Rillington Place) a Kate Ashfield, sydd wedi ysgrifennu ar gyfer y teledu am y tro cyntaf ac wedi ei henwebu am BIFA.

Wrth drafod y cynhyrchiad diweddaraf I gael ei ffilmio yng Nghymru, dywedodd Ken Skates:  “Mae Journey’s End a Born to Kill yn ymuno â’r rhestr gynyddol o gynyrchiadau amlwg, gan gynnwys Will, Da Vinci’s Demons, The Bastard Executioner, Sherlock a The Collection, sy’n cael eu ffilmio yng Nghymru o ganlyniad i gymorth gan Lywodraeth Cymru. 

“Nid yw’n gyd-ddigwyddiad ein bod yn gweithio’n galed i ddenu cynyrchiadau o’r safon yma i Gymru ac yn cynnig pecyn cynhwysfawr o gymorth, gan gynnwys helpu cwmnïau cynhyrchu I ddod o hyd i’r stiwdio a’r lleoliadau iawn a’u helpu i ddod o hyd I griw lleol dawnus. 

“Mae denu cynyrchiadau drama o safon uchel i Gymru yn dod â nifer o fanteision.

“Nid yn unig mae’n creu manteision economaidd uniongyrchol ac anuniongyrchol wrth i’r ffilmio fynd yn ei flaen, ond mae hefyd yn dod â chyfleoedd am swyddi diddorol a llawn boddhad  ac yn hyrwyddo Cymru ar  lwyfan rhyngwladol, gan dynnu sylw at ein golygfeydd, ein lleoliadau a’n tirluniau prydferth.  Ac wrth gwrs mae’n helpu i ddenu twristiaid I Gymru. 

“Mae’n amlwg bod ein dull proactif yn talu ar ei ganfed a bod ein henw da fel gwlad sy’n cefnogi ac yn hwyluso cynyrchiadau drama yn parhau i dyfu.  

“Mae 2016 wedi bod yn flwyddyn wych ar gyfer cynhyrchu teledu ac rydym yn edrych ymlaen at weld rhagor o gynyrchiadau cyffrous yn dod i Gymru yn 2017.”  

Dywedodd Guy de Beauieu, cynhyrchydd Journey’s End: “Cawsom gyfle, trwy ffilmio yng Nghymru, i fanteisio ar amrywiaeth eang o leoliadau nad ydyn nhw wedi cael eu gweld o’r blaen ar ffilm na theledu.

"Mae hynny bob tro’n fonws, yn enwedig wrth ffilmio dramâu hanesyddol.  Gwnaethom ni fwynhau’n hamser yng Nghaerdydd.” 

Llun: Paul Bettany

Rhannu |