Mwy o Newyddion
Rheolwyr pêl-droed sy'n methu yn cael miliynau, tra bod gweithwyr gofal yn byw ar gyflogau pitw
Mae talu miliynau o bunnau i reolwyr pêl-droed sy’n cael y sac, tra bo gweithwyr hanfodol fel gofalwyr yn crafu byw ar gyflogau isel, yn adlewyrchiad truenus o werthodd cymdeithas – meddai un o Gristnogion blaenllaw Cymru yn ei neges Flwyddyn Newydd.
"Mae nifer di-rif o bobl oedrannus a’r rhai sy’n gaeth i'w cartref yn dibynnu ar weithwyr gofal sy’n ennill cyn lleied â £7.20 yr awr," meddai’r Parchg Jill-Hailey Harries, Is-lywydd Undeb yr Annibynwyr Cymraeg.
"Eto, mae rheolwr tîm pêl-droed Crystal Palace yn pocedi £5m ar ôl cael ei ddiswyddo, tra bo clwb Dinas Abertawe yn mynd i ddarparu "pecyn sylweddol” i’r cyn-reolwr Bob Bradley, gafodd ei diswyddo fel methiant ar ôl llai na thri mis yn y swydd.
"Mae'n sefyllfa warthus.
"Mae £5m. yn fwy na fyddai 350 o weithwyr gofal yn ennill, gyda’i gilydd, mewn blwyddyn!
"Yn ogystal â chyflogau isel, mae nifer o weithwyr gofal heb gytundeb oriau penodol, sy'n golygu na chant dâl o gwbl os ydynt yn sâl.
"Gall hefyd fod yn frwydr i sicrhau tâl am yr amser teithio o un apwyntiad i’r arall.
"D’oes dim syndod bod canran uchel o weithwyr gofal yn gadael y sector bob blwyddyn i gymryd swyddi eraill.
"Mae hyn yn amlwg yn cael effaith ar brofiad y gweithlu ac yn amharu ar barhad gofal i gleientiaid.
"Mae pobl hŷn yn hapusach o weld wynebau cyfarwydd.
"Rwy’n croesawu’r camau sy’n cael eu cymryd gan Lywodraeth Cymru ar hyn o bryd i osod gofyniad cyfreithiol ar gwmnïau sy'n cyflogi gofalwyr i’w trin yn deg.
"Mae’r ffaith bod y galw am ofal cymdeithasol yn cynyddu, ar adeg o doriadau cynyddol mewn gwariant cyhoeddus, yn creu pwysau ariannol enfawr.
"Yn 2017, gadewch inni oll gydnabod a dathlu rôl hanfodol y fyddin o weithwyr gofal yng Nghymru."
Llun: Parchg Jill-Hailey Harries