Mwy o Newyddion

RSS Icon
30 Rhagfyr 2016

Cadwch eich llygaid yn iach yn 2017

Ydy, mae’n ddiwedd y flwyddyn ac mae awgrymiadau am Addunedau ar gyfer y Flwyddyn Newydd yn tyrru atom.

Prif waith RNIB Cymru yw cefnogi pobl â cholled golwg, ond mae’n waith hefyd sy’n cynnwys ymgyrchu dros ymdrechion i atal colled golwg.

Awgrymai ymchwil fod dilyn y pwyntiau isod yn gallu sicrhau fod eich llygaid yn iach a bod y risg o ddatblygu problemau llygaid yn lleihau…felly beth am eu cynnwys ar eich rhestr addunedau 2017:

1. Prawf llygaid rheolaidd

Dylai bob un ohonom gael prawf llygaid o leiaf un waith bob dwy flynedd - hyd yn oed os nad oes newid yn eich golwg. Yn aml fe all prawf llygaid nodi unrhyw broblemau cyn i chi eich hun sylwi arnynt. Gall hyn arwain at driniaeth addas ar yr adeg gywir, ac fe all hynny arbed eich golwg.

2. Rhoi’r gorau i smygu

A wyddoch chi fod smygu yn gallu dyblu risg ddatblygu dirywiad macwlaidd (AMD) sy’n gysylltiedig ag oedran, sef yr hyn sy’n achosi colled golwg mwy na dim yn y Deyrnas Unedig? A dweud y gwir, mae’r cysylltiad mor gryf â’r hyn sydd rhwng smygu a chancr yr ysgyfaint. Siaradwch â’ch Meddyg Teulu am roi’r gorau i smygu.

3. Bwytewch yn iach a gwyliwch eich pwysau

Fe all diet sy’n isel mewn braster dirlawn (saturated fats) ond yn llawn llysiau deiliog gwyrdd fel ysbigoglys (spinach) a brocoli arafu datblygiad pilennau (cataracts) ac AMD. Gall orennau, ciwi, cnau, hadau a physgod seimllyd hefyd arafu ac atal rhai cyflyrau llygaid. Dydi cymryd atchwanegiadau (supplements) ddim yn gyfnewid am ddiet iach. Mae’n bwysig cadw pwysau iach. Gall gordewdra gynyddu risg datblygu clefyd siwgr, ac fe all hynny arwain at golled golwg.

4. Amddiffyn eich llygaid rhag yr haul

Mae pelydrau’r haul, UVA a UVB, yn gallu niweidio eich llygaid ac fe all gynyddu risg pilennau ac AMD. Fydd gwisgo sbectol haul, sbectol neu lensys cyffwrdd (contact lenses) gyda hidlwr UV yn amddiffyn eich llygaid. Mynnwch sbectol haul sydd ag arwydd CE neu Safon Brydeinig BS EN ISO 12312-1.

5. Diogelwch

Mae gwneud eich gwaith eich hun (DIY) yn achosi miloedd o anafiadau sy’n gysylltiedig â’r llygaid yn flynyddol. Gwisgwch sbectol lwch (goggles) bob tro (Safon Ewropeaidd BS EN 166) i amddiffyn eich llygaid rhag darnau o lwch. Mae chwaraeon (yn enwedig chwaraeon â raced (sboncen/badminton/tenis) hefyd yn achosi llawer o anafiadau llygaid yn flynyddol. Fyddai buddsoddi mewn sbectol ddiogel yn arbennig ar gyfer chwaraeon yn gymorth i osgoi niwed difrifol i’ch llygaid.

Dilynwch y rhain yn 2017 ac mi fydd hi yn Flwyddyn Newydd Dda i’ch llygaid!

 

Rhannu |