Mwy o Newyddion
Galw am ailgylchu defnydd lapio Nadolig
Mae'r Aelod Cynulliad Dr Dai Lloyd yn apelio i deuluoedd ledled Cymru i ailgylchu holl ddefnydd pecynnu anrhegion a chardiau Nadolig.
Yr adeg hon o'r flwyddyn mae pobl ymhobman yn gorfod gwaredu â phentwr o ddeunydd lapio - a da fyddai gweld Cymru'n arwain y ffordd wrth ei ailgylchu ble bynnag mae hynny'n ymarferol, meddai Dr Lloyd, AC Plaid Cymru dros Dde-orllewin Cymru.
"Un achos pryder yw gwastraff polystyren sy'n cael ei roi yn y sgip tirlenwi neu'n waeth fyth ei daflu'n ddiofal," meddai.
"Mae polystyren yn dirywio yn fân ddarnau sy'n denu tocsinau - achos pryder mawr i'r amgylchedd ac yn niweidiol iawn i fywyd gwyllt y môr.
"Mae'n dda bod Cyngor Abertawe er enghraifft wedi ailgyflwyno ailgylchu polystyren yng nghanolfan Clun yn Heol Derwen Fawr Road, Sgeti ar ôl bwlch rhyfedd o ddwy flynedd.
"Mae bellach yn bosibl mynd â gwastraff polystyren i ganolfan Clun, Garngoch, Tir John a Phenlan yn ogystal â Llansamlet yn lle ei daflu mewn bagiau du, ac erfyniaf ar bawb i fanteisio ar y cyfle hwn os oes modd yn y byd iddyn nhw wneud hynny.
"Ni welaf unrhyw reswm pam na allai pob cyngor arall yng Nghymru ddilyn y siampl yma.
"Mae modd ailgylchu polystyren i nifer o ddibenion da, gan gynnwys dodrefn gerddi, tiliau to, defnyddiau adeiladu ac eitemau plastig megis cloriau ar gyfer CDs."