Mwy o Newyddion

RSS Icon
30 Rhagfyr 2016

Ymdrech cymunedol yn helpu Ysgol Rhosgadfan i ail-agor

Mae disgwyl i ysgol yng Ngwynedd a ddifrodwyd yn sylweddol gan wyntoedd cryfion Storm Barbara ddydd Gwener diwethaf i ail-agor mewn lleoliadau dros-dro yn yr un pentref.

Tra bod asesiadau yn cael eu cynnal i ran o Ysgol Rhosgadfan a gwaith atgyweirio sylweddol i ddilyn, mae ysbryd cymunedol yn y pentref yn golygu fod trefniadau yn cael eu gwneud fel fod modd i’r disgyblion ddychwelyd i’r ysgol mor gynnar a dydd Iau nesaf.

Diolch i ymateb cyflym a hael y clwb pêl-droed lleol Mountain Rangers, bydd disgyblion ieuengaf Ysgol Rhosgadfan yn cael eu haddysgu ym mhrif ystafell ddigwyddiadau’r clwb am y tro.

Mae trefniadau hefyd yn cael eu gwneud gyda Cadw i ddisgyblion hŷn yr ysgol gael eu haddysgu yng nghanolfan addysgiadol Cae’r Gors sydd hefyd wedi ei leoli ger adeilad Ysgol Rhosgdfan.

Dywedodd Pennaeth Ysgol Rhosgafdan, Paul Carr: “Roedd y difrod a achoswyd i ran o’r ysgol ddydd Gwener diwethaf yn ddychrynllyd, ond mi fyddwn i’n hoffi datgan ein diolch a’n gwerthfawrogiad fel ysgol i bawb sydd wedi cynnig cymorth dros y dyddiau diwethaf.

"Ar ddiwrnod y storm ei hun ac ers hynny, mae’r cymorth a’r gefnogaeth sydd wedi ei gynnig wedi bod yn anhygoel.

“Rydan ni’n hynod ddiolchgar i swyddogion a phwyllgor clwb pêl-droed Mountain Rangers am gynnig yr ystafell ddigwyddiadau fel cartref i’r cyfnod sylfaen nes fod ystafelloedd caban dros dro ar gael tra bod y gwaith atgyweirio yn digwydd yn yr ysgol.

"Yn ogystal, rydan ni’n ddiolchgar tu hwnt i Cadw am eu cydweithrediad wrth gytuno mewn egwyddor i ni ddefnyddio’r awditoriwm yn Cae’r Gors ar gyfer y disgyblion hŷn.

“Mae’r holl beth yma wedi dangos fod ysbryd cymunedol yn fyw ac yn iach yn Rhosgadfan ac rydan ni’n ddiolchgar ein bod yn gallu sicrhau fod disgyblion yn dychwelyd i’w gwersi mor fuan yn y flwyddyn newydd.

"Ein nod ydi fod disgyblion yn dychwelyd i’w gwersi ar ddydd Iau, a byddwn yn diweddaru rhieni gyda’r holl drefniadau.”

Meddai’r Cynghorydd Dyfed Edwards, Arweinydd Cyngor Gwynedd: “Mae’r ysbryd cymunedol sydd wedi ei amlygu dros y dyddiau diwethaf wedi bod yn allweddol bwysig i’r cyngor geisio canfod datrysiad dros dro i’r sefyllfa yn Rhosgadfan.

"Diolch i gydweithrediad yr aelod lleol, clwb pêl-droed y Mountain Rangers, Cadw a holl staff y cyngor a’r ysgol ei hun, rydym yn gobeithio y bydd disgyblion yn ôl wrth eu gwersi erbyn dydd Iau – mae hynny’n rhyfeddol o ystyried y difrod a achoswyd i ran o adeilad yr ysgol ddydd Gwener diwethaf.

“Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cynorthwyo. Wrth gwrs, bydd angen rhagor o waith cyn i ni wybod union natur y gwaith atgyweitio fydd ei angen, ond bydd y cyngor a’r ysgol yn diweddaru rhieni gydag unrhyw wybodaeth pan fydd y disgyblion yn ôl yn eu gwersi.”

Rhannu |