Mwy o Newyddion
San Steffan yn anwybyddu cynnydd mawr yn nghost petrol
Mae Plaid Cymru wedi cyhuddo swigen San Steffan o fod “allan o gysylltiad â bywyd y tu allan i Lundain” wrth i gost cynyddol petrol gael ei anwybyddu.
Ym mis Tachwedd, yr oedd pris petrol ar ei lefel uchaf ers dwy flynedd.
Dengys y ffigyrau diweddaraf ei fod wedi gostwng ddwy geiniog ers ei lefel uchaf, ond ar 114.23c y litr, mae er hynny 11 y cant yn uwch nag y bu ar ddechrau’r flwyddyn, sydd yn codi cost llenwi car teulu arferol o fwy na £6.
Rhybuddiodd yr AA mai dal i godi wnaiff prisiau wedi i nifer o’r gwledydd sy’n cynhyrchu olew gytuno i dorri i lawr ar gynhyrchiant er mwyn chwyddo prisiau.
Mae AS Plaid Cymru dros Ddwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, Jonathan Edwards, wedi cyhuddo swigen San Steffan o fod ag “obsesiwn afiach gyda’r hyn maent yn ddarllen yn y London Evening Standard” ar draul y problemau go-iawn y mae angen mynd i’r afael â hwy ledled y DG.
Ar draws y DG, mae 90% o siwrneiau teithwyr yn cael eu gwneud mewn car ond yn Llundain mae’r ffigwr hwn yn cwympo i 38%.
Dywedodd Jonathan Edwards: “Mae swigen San Steffan wedi ei hynysu’n llwyr oddi wrth fywyd y tu allan i Lundain.
"I’r rhai ohonom nad ydynt yn treulio eu holl fywydau yn Llundain, mae cost cynyddol petrol yn cael effaith gwirioneddol ar ein hincwm gwario.
“Mae llawer ohonom yn dibynnu ar ein ceir i deithio i’r gwaith, neu i gludo’n plant yn ôl ac ymlaen o’r ysgol, tra bod swigen San Steffan oll yn teithio ar rwydwaith y trên tanddaearol y talwyd amdano gan y trethdalwr, neu ar eu gwasanaethau rheillfyrdd a bysus integredig.
“Cododd pris llenwi car teulu arferol i’r entrychion o 11 y cant ers dechrau’r flwyddyn, a chyda mwy o godiadau prisiau i ddod a gwerth y bunt yn plymio, bydd pobl gyffredin yn dioddef toriad llym yn swm yr arian fydd ganddynt i’w wario.
“Ond does gan wleidyddion yn San Steffan ddim syniad.
"Mae ganddynt obsesiwn afiach gyda’r hyn maent yn ddarllen yn y London Evening Standard – y bont ardd i fancwyr y ddinas neu iot newydd i’r Teulu Brenhinol.
"Tydyn nhw ddim mewn cysylltiad â’r materion sy’n effeithio ar bobl go-iawn y tu allan i swigen San Steffan.
“Mae Plaid Cymru wedi galw dro ar ôl tro am reoleiddiwr treth tanwydd fyddai’n gwneud iawn am gynnyd yng nghost tanwydd trwy dorri cost ychwanegol y dreth.
"Dyna’r math o bolisi y dylai San Steffan fod yn fabwysiadu os ydynt am helpu’r rhai sydd prin yn cael dau ben llinyn ynghyd.
“Oes unrhyw syndod fod pobl wedi diflasu ar y sefydliad pan nad yw’r sefydliad yn gwybod dim am bryderon pobl gyffredin?
“Byddai newid o geiniog yng nghyfradd treth incwm yn llenwi penawdau papurau’r Wladwriaeth Brydeinig, ond mae pris petrol wedi codi o bron i 20c ers 2007 ac mae San Steffan yn dawel.”