Mwy o Newyddion
Cyflwynwyr yn cydnabod cyfraniad BBC Radio Cymru ar drothwy ei phen-blwydd yn 40
Mae BBC Radio Cymru yn dathlu 40 mlynedd o ddarlledu ar Ionawr 3.
Ddeugain mlynedd ar ôl cyflwyno’r newyddion ar fore cyntaf Radio Cymru, mae’r newyddiadurwr Gwyn Llewelyn yn dychwelyd i’r orsaf, am y bore, i ddarllen y newyddion.
Mae’n ddechrau ar flwyddyn o ddathlu ac arloesi i’r gwasanaeth cenedlaethol.
Hefyd, ar ddiwrnod pen-blwydd yr orsaf, bydd Hywel Gwynfryn, a gyflwynodd y rhaglen Helo Bobol ar ddiwrnod cyntaf Radio Cymru, yn ymuno yn y dathliadau ar raglen Aled Hughes am 8.30am.
Bydd Dei Tomos a Richard Rees hefyd yn westeion – dau arall a fu’n rhan o’r gwasanaeth ers y dechrau.
Mae rhai o enwogion y byd darlledu wedi bod yn edrych yn ôl ar gyfraniad yr orsaf.
Dywedodd y darlledwr Huw Edwards: “Mae gen i gof clir iawn o lansiad Radio Cymru yn 1977, digwyddiad o bwys mawr yn ein tŷ ni yn Llangennech.
"Roedd Dad yn gwrthod diffodd y radio am oriau maith bob dydd.
"Ond rwy’n cofio’r pleser o glywed y rhaglenni newyddion safonol iawn, a mwynhau gwasanaeth a grewyd ar ein cyfer ni’r Cymry Cymraeg.
"Cofiwch mai tameidiog iawn oedd y ddarpariaeth i ni ar y teledu bryd hynny.
"Bu Radio Cymru yn wirioneddol hanfodol o ran cefnogi a hybu’r Gymraeg, ac rwy'n teimlo bod y newidiadau a wnaed yn y blynyddoedd diweddar wedi cryfhau'r gwasanaeth. Ymlaen am 40 arall o leiaf!”
Dywedodd Huw Stephens, un o leisiau mwyaf cyfarwydd Radio Cymru a Radio 1: “Mae Radio Cymru wedi bod yn rhan bwysig o'r sîn gerddoriaeth yng Nghymru, yn gefnogol i'r cerddorion ac yn dod â’r talent a’r caneuon o bob math i’r gwrandawyr - yn ffans bands a gwerin, canol y ffordd a chlasurol.
"Mae'n bleser bod yn rhan o'r orsaf sydd yn adlewyrchu Cymru, ac hefyd yn denu gwrandawyr dros y byd.”
Dros y ddeugain mlynedd mae Radio Cymru - yr unig orsaf radio Gymraeg genedlaethol - wedi cynhyrchu rhaglenni sy'n apelio at groesdoriad eang o siaradwyr Cymraeg.
Ymhlith rhai o’r uchafbwyntiau, mae’n ymddangos mai Gareth Glyn, cyn gyflwynydd y Post Prynhawn oedd y cyntaf yng Ngwledydd Prydain i glywed fod Ynysoedd y Malvinas neu’r Falklands wedi eu goresgyn yn 1982. Derbyniodd alwad ffôn o’r ynysoedd cyn i’r stori fod yn gyhoeddus.
Meddai Gareth Glyn: “Er mor annhebygol y mae’n swnio, mae gen i atgof o ateb un o ffonau’r swyddfa - funudau cyn i’r Post Prynhawn fynd ar yr awyr - a chlywed llais ar y pen arall yn dweud ei fod yn ddarlledwr radio amatur – radio ham – gyda newyddion bod hofrenyddion milwrol wedi glanio ar yr ynysoedd.
"Gan fod yn rhaid i mi ruthro i’r stiwdio ar gyfer y rhaglen, mi wnes i drosglwyddo’r alwad yn syth i rywun arall yn yr ystafell newyddion - heb feddwl, ar y pryd, ymhellach am y peth.
"Rydw i wedi pendroni byth ers hynny ai dyma’r tro cynta i newyddion am y cyrch gyrraedd unrhyw wlad yn y Deyrnas Gyfunol.”
Mae Radio Cymru yn llwyfan i bob math o gerddoriaeth o Gymru. Roedd y recordiad cyntaf erioed o’r Super Furry Animals – Dim Brys: Dim Chwys ar gyfer y rhaglen Heno Bydd Yr Adar Yn Canu - ar Radio Cymru yn 1994.
Dywedodd y canwr Ywain Gwynedd, a gafodd ei ysbrydoli gan gerddoriaeth Radio Cymru: “Dwi’n cofio fy mrodyr yn gwrando ar Y Lein Hwyr ar Radio Cymru flynyddoedd yn ôl, yn gwneud ceisiadau am ganeuon.
"Wnes i glywed Gwefus Melys Glwyfus am y tro cyntaf ar Radio Cymru a chofio meddwl ar y pryd fod cerddoriaeth Gymraeg yn cŵl – a bo fi eisiau gwneud yr un peth.
"Mae Radio Cymru wedi gwneud cyfraniad anferth ac wedi meithrin fy nhalent i.”
Yna yn 2015, fe gafodd record byd newydd ei gosod ar Radio Cymru, wrth i ddeuawd gael ei chanu gan gantorion oedd 7,000 o filltiroedd ar wah?n.
Y cantorion oedd cyflwynwraig Radio Cymru a'r gantores Shân Cothi, oedd yn canu yn Neuadd Hoddinott yng Nghaerdydd, gydag Andres Evans, ym mhen draw’r byd yn y Gaiman ym Mhatagonia.
Bu’r ddau yn cyd-ganu Calon Lân yn fyw gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC.
I arwain at ben-blwydd Radio Cymru yn 40, lansiwyd cynllun peilot - BBC Radio Cymru Mwy - fel rhan o gyfres o ddatblygiadau digidol gan y gwasanaeth cenedlaethol.
Hon oedd gorsaf dros dro gyntaf BBC Cymru, a dros gyfnod o bymtheg wythnos, bu cyfle gan wrandawyr gael mwy o gerddoriaeth a hwyl wrth i Radio Cymru Mwy ddarlledu yn ystod bore’r wythnos waith.
Ac wrth ddod o hyd i dalent a lleisiau newydd mae BBC Radio Cymru wedi cyhoeddi y bydd elfennau o Radio Cymru Mwy yn parhau ar y prif wasanaeth yn ystod blwyddyn o ddathlu pen-blwydd yr orsaf.
Dywedodd Betsan Powys, Golygydd Radio Cymru: “Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu at lwyddiant Radio Cymru dros y ddeugain mlynedd ddiwethaf.
"Mae pen-blwydd yr orsaf yn garreg filltir bwysig i ddarlledu Cymraeg.
"Ry’n ni’n edrych ymlaen at flwyddyn arbennig, i ddathlu talentau a theyrngarwch y gorffennol.
"Ond mae’r pwyslais, wrth gwrs, ar edrych ymlaen, wrth i ni barhau i arloesi, i ddiddanu ac i fod yn gwmni da i’n cynulleidfaoedd.”
Wrth edrych yn ôl ar ddeunaw mlynedd o ddarlledu, dywedodd Hywel Gwynfryn, un o gyflwynwyr cyntaf Radio Cymru: “Mae’r dechnoleg wedi newid erbyn hyn, ond mae’r nod yr un fath heddiw - diddori eich cynulleidfa mewn amrywiol ffyrdd.
"Ac mae Radio Cymru yn cynnig yr amrywiaeth hwnnw.
"Fel bwydlen mewn tŷ bwyta - ’newch chi ddim mwynhau popeth sy’n cael ei gynnig ar y gwasanaeth, ond mae ’na rywbeth ar y fwydlen i bawb.”
Llun: Hywel Gwynfryn