Mwy o Newyddion
Eglwys yn dathlu 20 mlynedd o weinidogaeth menywod fel offeiriaid
Caiff ugain mlynedd o weinidogaeth menywod fel offeiriaid eu dathlu mewn gwasanaethau a gynhelir ar yr un pryd ym mhob cadeirlan yng Nghymru fis nesaf.
Cynhelir y gwasanaethau ym mhob un o’r chwe chadeirlan yng Nghymru am 11am ar 7 Ionawr, i nodi 20 mlynedd ers ordeinio menywod yn offeiriaid am y tro cyntaf.
Daw’r pen-blwydd ychydig wythnosau cyn carreg filltir arall yng ngweinidogaeth menywod yng Nghymru – cysegru’r fenyw gyntaf i fod yn esgob, y Canon Joanna Penberthy, yn Esgob Tyddewi ar 21 Ionawr.
Gwnaed hanes ar 11 Ionawr 1997 pan gynhaliodd pob cadeirlan yng Nghymru ei gwasanaeth ordeinio cyntaf ar gyfer menywod fel offeiriaid.
Cafodd 61 o fenywod ei hordeinio’r diwrnod hwnnw a chafodd eu henwau eu cynnwys mewn logo ar gyfer y pen-blwydd. Bydd llawer ohonynt yn cymryd rhan yn y gwasanaethau ar 7 Ionawr.
Cafodd y syniad am ddathliad yr un pryd ei gynnig gyntaf gan Grŵp Deiniol Sant, grŵp anffurfiol o uwch fenywod lleyg ac ordeiniedig o bob rhan o’r Eglwys yng Nghymru, y mae ei haelodau ym mhob esgobaeth wedi bod yn ymwneud â’r cynllunio.
Dywedodd Peggy Jackson, Archddiacon Caerdydd, sy’n cynnull y grŵp: “Mae gan yr Eglwys yng Nghymru bob rheswm am ddathlu a bod yn ddiolchgar am weinidogaeth y menywod cyntaf hyn i fod yn offeiriaid.
"Daethant â doniau cyfoethog ac amrywiol i fywyd sacramentaidd yr Eglwys, ac maent wedi ysbrydoli llawer o fenywod ers hynny i’w cynnig eu hunain ar gyfer gweinidogaeth gyhoeddus.
"Maent wedi galluogi’r Eglwys i gynrychioli, ac felly wasanaethu’n fwy effeithlon, bobl pob cymuned yng Nghymru.”
Roedd y Canon Enid Morgan ymysg y menywod gyntaf i gael ei hordeinio a bydd yn rhoi’r anerchiad yng Nghadeirlan Bangor yn ystod y gwasanaeth dathlu.
Wrth gofio’r diwrnod dywedodd: “Roedd yn ddiwrnod o lawenydd mawr, ond yn gymysg gydag emosiynau eraill.
"Roedd gennym flynyddoedd o rwystredigaeth tu ôl i ni – roeddwn wedi treulio 12 mlynedd fel diacon ac roedd pawb ohonom yn teimlo fod llawer o egni wedi cael ei wastraffu.
"Hefyd yn y diwedd ymddangosai fod pethau’n digwydd yn gyflym iawn.
"Y mis Medi blaenorol y pasiwyd y Bil felly doedden ni ddim wedi cael llawer o amser i gynefino gyda’r ffaith ei fod yn mynd i ddigwydd mewn gwirionedd.
"Roedd y symud o obaith i ddisgwyliad yn un sydyn.
"Roedd hefyd wrthwynebiad gan bobl a arhosodd i ffwrdd, a hyd yn oed heddiw mae clerigwyr ifanc yn dal i gael eu meithrin i wrthwynebu.
“Ugain mlynedd yn ddiweddarach mae gennym bob rheswm dros ddathlu ac edrych ymlaen.
"Mae cenhedlaeth gyfan wedi tyfu lan yn gweld menywod fel offeiriaid a’u gweinidogaeth fel bod yn normal, a gallwn ddechrau cymryd rhai pethau’n ganiataol.
"Yn wir, pan welwch luniau neu ffilm o grwpiau o glerigwyr heb unrhyw fenywod yn bresennol, mae’n edrych yn rhyfedd a hyd yn oed braidd yn hurt. Creiriau o’r oes o’r blaen.
“A dweud hynny, mae llawer o waith yn dal ar ôl.
"Nid oes llawer o fenywod mewn swyddi uwch ac mae gwrthwynebiad goddefol yn dal i fod ymysg rhai clerigwyr ac mae rhai menywod yn amharod i roi eu pennau uwch y parapet.
"Bydd yn cymryd ychydig o amser i symud o’r hyn mae’r gyfraith yn ei ganiatáu i’r potensial newydd hwn flodeuo.
"Hoffem hefyd weld mwy o fenywod iau yn dod i’r weinidogaeth.
"Rwyf wrth fy modd ein bod yn awr yn gweddïo dros ‘ein darpar esgob Joanna’ ac rwy’n hyderus y bydd Joanna Penberthy, oedd ymysg y rhai a ordeiniwyd yn y cyfarfod cyntaf hwnnw, yn fodel rôl i ddenu’r genhedlaeth newydd o fenywod yn offeiriaid.”
Mae manylion y gwasanaethau cadeirlan a gynhelir ar 7 Ionawr fel a ganlyn:
Llandaf (pregethwr Canon Jenny Wigley), Bangor (pregethwr Enid Morgan), Casnewydd (Esgob Dominic Walker), Llanelwy (Esgob Caerloyw, Rachel Treweek), Aberhonddu (pregethwr, Canon Carol Wardman), Tyddewi (Canon Joanna Penberthy).
Bydd casgliad ar gyfer Cymorth i Fenywod Cymru yn rhai o’r gwasanaethau.
Llun: Canon Enid Morgan a rhai o’r menywod cyntaf i gael eu hordeinio 20 mlynedd yn ôl tu allan i Gadeirlan Llanelwy