Mwy o Newyddion

RSS Icon
28 Rhagfyr 2016

Gallai targedu myfyrwyr rhyngwladol wneud difrod enbyd i brifysgolion Cymru

Mae Steffan Lewis, llefarydd Plaid Cymru ar faterion rhyngwladol, wedi rhybuddio y gallai torri nifer y  myfyrwyr rhyngwladol i gwrdd â thargedau mewnfudo wneud difrod enbyd i brifysgolion Cymru.

Bwriada’r Llywodraeth Geidwadol gyflwyno rhwystrau newydd i fyfyrwyr rhyngwladol sydd eisiau teithio i’r DG i astudio.

Dengys ystadegau diweddaraf y SYG ar fewnfudo fod 30,000 yn llai o bobl wedi dod i’r DG i astudio yn y flwyddyn yn diweddu Mehefin 2016, gostyngiad o 15%.

Dadleuodd Steffan Lewis dros system o fisas Cymreig fyddai’n galluogi Cymru i gyhoeddi ei thrwyddedau astudio ei hun er mwyn sicrhauby gall prifysgolion Cymru gynnal eu henw da ledled y byd.

Meddai Steffan Lewis, llefarydd Plaid Cymru ar faterion allanol: “Gall torri nifer y myfyrwyr rhyngwladol ymddangos yn ateb hawdd i leihau nifer y mewnfudwyr.

"Mae’r Torïaid yn San Steffan wedi awgrymu cyflwyno rheolau llymach am fisas myfyrwyr fyddai’n ei gwneud yn  anos o lawer i bobl deithio i’r DG i astudio.

"Fodd bynnag, mae’r agwedd hon yn hollol groes i farn y cyhoedd a gallai greu niwed enbyd i’n sefydliadau addysg uwch a’u henw da am ragoriaeth ledled y byd.

“Rydym eisoes wedi gweld cwymp yn nifer y myfyrwyr rhyngwladol sy’n symud i’r DG i astudio.

"Dengys ffigyrau diweddaraf y SYG fod  30,000 yn llai o bobl wedi symud i’r DG i astudio yn y flwyddyn yn diweddu Gorffennaf 2016, cwymp o 15%.

“Dylai Cymru feddu ar y gallu i gyhoeddi ein fisas ein hunain i’r sawl sydd eisiau dod i’n gwlad i astudio neu i weithio.

"Byddai hyn yn rhoi i ni’r hyblygrwydd i ymateb i’r galw yng Nghymru ac yn ein rhyddhau o hualau safbwynt y  DG gyfan nad yw’n addas i’n hanghenion ni.

"Mae myfyrwyr rhyngwladol yn dod â llawer o fanteision i’n prifysgolion a’r cymunedau lle maent yn byw.

“Mae gan brifysgolion Cymru hanes hir o fod â safonau uchel a bod yn sefydliadau rhyngwladol sy’n edrych tuag allan.

"Dylai fod gan Gymru y grym i gyhoeddi fisas astudio er mwyn sicrhau y gall prifysgolion Cymru barhau i ddenu’r myfyrwyr rhyngwladol disgleiriaf a chadw eu henw da fel canolfannau dysg ac ymchwil.”

Llun: Steffan Lewis

Rhannu |