Mwy o Newyddion

RSS Icon
28 Rhagfyr 2016

Arweinydd Plaid yn rhybuddio’r Prif Weinidog rhag cymryd Cymru’n ganiataol

Mae Leanne Wood Arweinydd Plaid Cymru heddiw wedi rhybuddio’r Prif Weinidog Theresa May yn erbyn cymryd Cymru’n ganiataol mewn “blwyddyn dyngedfennol” o benderfynu a negodi ar gyfer dyfodol y genedl.

Dywedodd Leanne Wood fod angen ‘deinameg newydd’ rhwng San Steffan a Chymru ble nad yw Cymru’n llusgo ar ei hôl hi mewn meysydd hanfodol megis buddsoddiad isadeiledd a datblygiad economaidd.

Cyfeiriodd Arweinydd Plaid Cymru at gadarnhad diweddar Network Rail y bydd hi’n cymryd 28 mlynedd i wneud isadeiledd rheilffordd Cymru’n gyfoes er mwyn rhybuddio Llywodraeth y DU y gall ddisgwyl adwaith yn ffurf teimlad gwrth-San Steffan os yw’n parhau i drin Cymru fel ôl-feddwl.

Dywedodd Leanne Wood: “Gyda’r flwyddyn newydd ar ein gwarthaf dyma gyfle da i ystyried yr heriau sydd ar y gorwel i’n gwlad.

“Bydd 2017 yn flwyddyn dyngedfennol o benderfynu a negodi ar gyfer dyfodol Cymru, gyda’r grym i wneud hynny yn nwylo llywodraeth San Steffan yn y mwyafrif o achosion.

“Ar hyn o bryd, nid oes llawer yn y ffordd y caiff Cymru ei thrin gan San Steffan i awgrymu y bydd buddiannau ein heconomi a’n cymunedau’n cael eu gwarchod gan Geidwadwyr yn Llundain.

“Ers degawdau, mae ein gwlad wedi goddef tan-fuddsoddi a dad-ddiwydiannu bwriadol dan un llywodraeth San Steffan ar ôl y llall.

"Mae rhai cymunedau'n dadboblogi oherwydd diffyg cyfleoedd tra ar yr un pryd yn colli gwasanaethau a chyfleusterau allweddol megis llyfrgelloedd a banciau. Mae amynedd pobl yn prinhau.

“Mae enghraifft ddiweddar Network Rail yn cadarnhau y bydd hi’n cymryd 28 mlynedd i greu system rheilffordd gyfoes Gymreig yn dangos i ba raddau mae ein cenedl wedi ei hesgeuluso’n hanesyddol.

“Ar ddechrau blwyddyn newydd, mae gan y Prif Weinidog gyfle i gyflwyno deinameg newydd ble nad yw Cymru’n cael ei chymryd yn ganiataol.

"Os yw hi’n methu, bydd teimladau gwrth-San Steffan yn tyfu gyda mwy a mwy o bobl yn ffafrio hunanreolaeth dros reolaeth Lundeinig.

“Nid oes dim yn anochel am sefyllfa economaidd Cymru.

"Heb os, mae gennym y talent a’r adnoddau i lwyddo ond mae’r rhain yn cael eu llethu gan lywodraeth Geidwadol ddifater yn San Steffan a llywodraeth Lafur yng Nghymru sy’n rhy wan i’w herio.

“Bu 2016 yn flwyddyn pan y defnyddiodd pobl eu llais a phleidleisio i gael mwy o reolaeth dros eu bywydau.

"Fel yr unig rym gwleidyddol sy’n credu y dylai penderfyniadau am Gymru gael eu gwneud yng Nghymru ac y dylai ein cenedl gael rheolaeth gwirioneddol dros ei materion ei hun, mae Plaid Cymru'n gweld 2017 fel cyfle i weithredu ar y syniadau hynny."

Llun: Leanne Wood

Rhannu |