Mwy o Newyddion
Ymgyrchydd iaith i wrthod talu ei thrwydded teledu er mwyn datganoli darlledu
Mae ymgyrchydd iaith blaenllaw wedi datgan y bydd hi'n gwrthod talu ei thrwydded deledu yn y flwyddyn newydd er mwyn sicrhau bod darlledu yn cael ei ddatganoli i Gymru.
Mae Heledd Gwyndaf, o Dalgarreg yng Ngheredigion, sy'n Gadeirydd ar Gymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi dweud y bydd hi ac aelodau eraill y mudiad yn gwrthod talu ei thrwydded oni bai bod y Llywodraeth yn rhoi'r cyfrifoldeb dros ddarlledu i'r Senedd ym Mae Caerdydd.
Dywedodd bod yr adolygiad o S4C yn cynnig cyfle i sicrhau hynny, gan ddweud bod y Gweinidog Guto Bebb yn Swyddfa Cymru wedi datgan y bydd yn rhaid i'r adolygiad ystyried datganoli darlledu i Gymru.
Nid oes cyhoeddiad wedi bod ers Datganiad yr Hydref am grant Llywodraeth Prydain i S4C ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf, gyda Swyddfa Cymru yn dweud bod "yn dal i drafod â chydweithwyr yn Whitehall".
Yn ystod y flwyddyn ariannol bresennol, cyfrannodd Llywodraeth Prydain £6.7 miliwn i S4C mewn grant o’r adran ddiwylliant, gyda gweddill cyllideb y sianel yn dod o'r ffi drwydded.
Mewn neges flwyddyn newydd, mae Heledd Gwyndaf, Cadeirydd y mudiad, yn galw ar gefnogwyr Cymdeithas yr Iaith i ymuno â hi ac i ymrwymo i wrthod talu eu trwyddedau teledu.
Meddai: "Mae sefyllfa ariannol S4C yn hynod fregus ac mae diffyg difrifol darlledu yn Gymraeg ar radio masnachol a theledu lleol, sydd ar gael mewn rhai ardaloedd o Gymru.
"Mae diffyg democrataidd mawr yn y wlad oherwydd yr holl ddarlledwyr Prydeinig sy'n ein trin fel rhan o Loegr.
"…mae'r ansicrwydd am beth fydd cyllideb S4C ar gyfer y flwyddyn nesaf, gyda thrafodaethau yn parhau gyda thri mis yn unig i fynd nes ddechrau'r flwyddyn ariannol nesaf, a hynny er gwaethaf ymrwymiad ym maniffesto 2015 y Ceidwadwyr i 'ddiogelu arian ac annibyniaeth olygyddol S4C'.
"Yn ddiamau, allwn ni ddim parhau â chyfundrefn sy'n golygu trafodaethau blynyddol gan Weinidogion yn Llundain am dynged ein hunig sianel deledu Gymraeg.
"Nawr yw'r amser i sicrhau ein bod ni yng Nghymru yn rheoli ein cyfryngau er lles yr iaith a holl gymunedau Cymru.
"Ac mae'r cyhoedd gyda ni.
"Yn ôl pwyllgor trawsbleidiol Comisiwn Silk, a sefydlwyd gan Lywodraeth Prydain ei hunan, mae 60% o bobl Cymru o blaid datganoli darlledu yn ei gyfanrwydd i Gymru."
Wrth sôn am adolygiad S4C yn fwy penodol, dywed Heledd Gwyndaf yn ei neges: "Mewn cyfarfod gyda ni ac yn ei sylwadau cyhoeddus, mae Gweinidog yn Swyddfa Cymru, Guto Bebb AS, wedi dweud y bydd yr adolygiad o S4C – a gynhelir flwyddyn nesaf - yn trafod datganoli darlledu yn ei gyfanrwydd i Gymru.
"Mae angen manteisio ar y cyfle hwn.
"Rydym angen gwneud safiad, nid yn unig er lles S4C ond lles yr iaith a Chymru gyfan."
Llun: Heledd Gwyndaf