Mwy o Newyddion

RSS Icon
23 Rhagfyr 2016

Neges Nadolig y Prif Weinidog i bobl Cymru

MAE'R adeg hon o’r flwyddyn yn gyfle inni edrych yn ôl ar y flwyddyn ddiwethaf ac ymlaen at y nesaf yn ôl Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones.

Meddai: " Mae 2016 wedi bod yn flwyddyn gofiadwy a dweud y lleiaf.

"Mae digwyddiadau’r deuddeg mis diwethaf wedi amlygu’r gwahaniaeth barn ymysg teuluoedd, ffrindiau ac eraill ynghylch y dyfodol yr hoffem ni ei weld i’n gwlad.

"Felly, os oedd 2016 yn canolbwyntio ar raniadau, gadewch inni gamu ymlaen a llunio 2017 fel blwyddyn sy’n ein huno gyda’r bwriad cyffredin o helpu’n gilydd i fyw y bywydau ry’n ni eisiau eu byw, a pharhau i greu Cymru well i bawb.

"Mae neges heddwch ac ewyllys da yn arbennig o arwyddocaol eleni, o ystyried y gyflafan yn Syria a'r miliynau o bobl sy'n wynebu dyfodol ansicr.

"Rwy’n annog pawb i gofio’r rhai llai ffodus y Nadolig hwn, y rhai na fydd yn dathlu’r ŵyl yng nghwmni eu hanwyliaid.

"Hoffwn hefyd ddiolch o waelod calon i'n staff gofal iechyd, gofal cymdeithasol a’r gwasanaethau brys, y gofalwyr a'r gwirfoddolwyr sy'n gweithio mor galed ac yn aberthu eu Nadolig eu hunain i helpu eraill. Ry’n ni wir yn gwerthfawrogi’ch ymroddiad a’ch ymrwymiad.

"Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i chi i gyd!"

 

Rhannu |