Mwy o Newyddion
Cadarnhau ffliw’r adar mewn hwyaden wyllt yn Sir Gâr
Mae Prif Swyddog Milfeddygol Cymru wedi cadarnhau bod achos o’r Ffliw Adar Pathogenig Iawn H5N8 wedi’i ddarganfod mewn hwyaden wyllt yn Llanelli, Sir Gaerfyrddin.
Dyma’r un straen o’r clefyd a gafwyd ar fferm dyrcwn yn Lincolnshire ddydd Gwener (16 Rhagfyr) ac a gafwyd mewn adar domestig, gwyllt a chaeth yn Ewrop, y Dwyrain Canol a Gogledd Affrica.
Cafwyd hyd i’r chwiwell yn farw a chafodd profion eu cynnal arni. Cafwyd cadarnhad bore yma bod straen H5N8 Pathogenig Iawn feirws ffliw’r adar arni.
Mae cael hyd i’r clefyd mewn aderyn gwyllt yn dod yn sgil cyhoeddi ar 6 Rhagfyr bod Cymru gyfan yn Barth Atal, sy’n golygu bod pawb sy’n cadw dofednod ac adar caeth eraill yn gorfod cadw eu hadar dan do neu gymryd camau priodol i’w cadw nhw ac adar gwyllt ar wahân a’u hamddiffyn rhag adar gwyllt.
Yn gynharach yr wythnos hon, cymerwyd camau pellach i amddiffyn dofednod ac adar caeth trwy gyhoeddi gwaharddiad dros dro ar grynhoi dofednod.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, Lesley Griffiths: “Ar ôl yr adroddiadau am straen H5N8 Ffliw’r Adar yn Llincolnshire ac Ewrop, rydym wedi cael hyd iddo nawr mewn hwyaden wyllt yn Llanelli.
"Nid yw hyn yn ein synnu ac mae’n dilyn apêl ar geidwaid adar i gadw golwg am arwyddion y clefyd. Mae’n debyg y gwelwn ragor o achosion eto.
“Nid oes adroddiadau wedi dod i’n clyw bod pobl wedi cael eu heintio gan straen H5N8 ac ychydig iawn o berygl sydd i iechyd pobl.
"Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd wedi cadarnhau hefyd ei bod yn sâff bwyta cig dofednod fel tyrcwn, gwyddau ac ieir.”
Meddai’r Prif Swyddog Milfeddygol, Christianne Glossop: “Mae hyn yn ein hatgoffa ni oll am beryglon heintiau.
"Mae’r Parth Atal a’r gwaharddiad dros dro ar grynhoi dofednod yn parhau mewn grym.
"Mae’n bwysig iawn hefyd bod ceidwaid adar yn cadw at y mesurau bioddiogelwch llymaf posib.
"Hyd yn oed os yw’r adar dan do, mae’r perygl o gael eu heintio’n un byw a dylai ceidwaid dofednod ac adar caeth eraill ofalu eu bod yn gwneud popeth posibl i rwystro’u hadar rhag dod i gysylltiad ag adar gwyllt.
" Dylid osgoi symud dofednod a dylech wastad diheintio dillad ac offer.”
Er mwyn deall yn well bresenoldeb H5N8 mewn adar gwyllt mewn sefyllfa gyfnewidiol iawn, mae’r trothwyon adrodd o ran cadw gwyliadwriaeth ar adar gwyllt wedi’u cyfyngu i restr o rywogaethau penodol y gwyddys eu bod wedi’u heintio yn Ewrop.
Annogir y cyhoedd i ffonio llinell gymorth APHA 03459 335577 os gwelan nhw unrhyw adar dŵr gwyllt marw (hwyaid, gwyddau neu elyrch) neu wylanod marw, neu bump neu fwy o adar gwyllt eraill o rywogaethau eraill yn farw yn yr un lle.
Os ydych yn poeni am iechyd eich adar, holwch eich milfeddyg.
Os ydych chi’n credu bod eich adar yn dangos arwyddion y clefyd, dylech gysylltu ar unwaith â swyddfa leol Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA).
Gofnynir i geidwaid dofednod, gan gynnwys y rheini sydd â llai na 50 o adar, i roi manylion eu heidiau i’r Gofrestr Dofednod.
Drwy wneud, gellir cysylltu â nhw ar unwaith pe bai’r clefyd yn taro er mwyn iddyn nhw allu cymryd y camau angenrheidiol yn syth i ddiogelu’u hadar.