Mwy o Newyddion

RSS Icon
22 Rhagfyr 2016

'Siopwch yn lleol dros y Nadolig' - Simon Thomas AC

Mae Simon Thomas AC Plaid Cymru heddiw wedi annog siopwyr yng Nghymru i gefnogi eu cigyddion, siopau llysiau, tafarndai a bwytai  lleol y Nadolig hwn, gan roi hwb y mae ei angen yn fawr i’w heconomi lleol.

Cred Plaid Cymru y gallai Llywodraeth Cymru wneud mwy i gefnogi economïau lleol, yn  enwedig yng nghefn gwlad.

Dywedodd Simon Thomas AC fod angen hybu cynnyrch Cymru yma yng Nghymru a thramor, ac y dylid annog siopau, archfarchnadoedd, bwytai a thafarndai i gadw cynnyrch ffermwyr a chynhyrchwyr lleol.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet cysgodol dros Faterion Gwledig: “Rhoddwyd y gorau i Wobrau Bwyd Cymru yn 2013 a byddai ail-gyflwyno’r gwobrau poblogaidd hyn yn ffordd dda o hybu ein cynnyrch ein hunain, gyda brand Cymreig cryf, yng Nghymru a ledled y byd.

“Mae Plaid Cymru wedi galw am ddynodi  2018 yn Flwyddyn Genedlaethol Bwyd a Diod o Gymru er mwyn hybu cynnyrch safonol Cymru ac annog cwsmeriaiad yn y DG a thramor i brynu mwy o gynnyrch Cymreig.

"Mae’r penderfyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd yn peryglu sector bwyd a diod Cymru oherwydd bod dros 90% o allforion bwyd a diod o Gymru yn mynd i weddill yr Undeb Ewropeaidd.

"Mae ansicrwydd hefyd ynghylch statws bwyd a diod gyda gwarchodaeth ddaearyddol yr UE, megis Cig Oen Cymru, Halen Môn a Thato Cynnar Sir Benfro.

"Mae gan Gymru record falch o gynhyrchu bwyd a diod o safon uchel ac y mae’n rhaid lleisio’r neges hwn yn glir.

“Dylid annog pobl a’u galluogi i brynu yn lleol drwy’r flwyddyn trwy hybu bwyd a diod da o Gymru, ac y mae’r Nadolig yn amser da i ddechrau.” 

Rhannu |