Mwy o Newyddion

RSS Icon
21 Rhagfyr 2016

Teilwng yw’r Oen - cynhyrchiad unigryw yn Theatr Felinfach

BYDD Theatr Felinfach yn llwyfannu cynhyrchiad uchelgeisiol o’r sioe eiconig Teilwng yw’r Oen yn Ionawr, diolch i nifer o geisiadau grant llwyddiannus a ddyfarnwyd yn ddiweddar, a fydd yn cyfuno perfformwyr a thîm cynhyrchu cymunedol a phroffesiynol.

Sioe yw hon sydd wedi ei seilio ar Y Meseia, Handel, un o’r gweithiau mwyaf adnabyddus yn y byd ac mae Teilwng yw’r Oen yn cyflwyno’r alawon hudolus a chofiadwy mewn gwisg gyfoes. Bydd yn cael ei pherfformio yn Theatr Felinfach ar 12, 13 ac 14 Ionawr.

Cyfarwyddwr cerdd y sioe fydd Rhys Taylor, cerddor llawrydd proffesiynol yn enedigol o Aberystwyth sydd wedi creu trefniant newydd o waith gwreiddiol Tom Parker.

Bydd dau unawdydd proffesiynol, adnabyddus  yn rhan o’r sioe, sef Deiniol Wyn Rees, sy’n wreiddiol o New Inn, Sir Gaerfyrddin ac sydd â chysylltiadau cryf â Theatr Felinfach, ond sydd bellach yn byw yn Llundain a Non Wyn Williams, actores ac aelod o’r grŵp pop Eden.

Bydd hefyd corws unedig o tua 70 o leisiau wedi ei greu o dri chôr cymunedol  sy’n dod o amrywiol ardaloedd yn y sir, sef Dyffryn Aeron – cartref côr cymysg pedwar llais Cardi-Gân, Llanbedr Pont Steffan sy’n gartref i gôr merched Corisma a Phonterwyd a Phontarfynach sy’n gartref i gôr y bois, sef Meibion y Mynydd. 

Darperir y seilwaith offerynnol gan Wasanaeth Cerdd Ceredigion a rhai offerynwyr proffesiynol.

Galluogwyd Theatr Felinfach i lwyfannu’r sioe arbennig hon o ganlyniad i’w llwyddiant mewn nifer o geisiadau cyllid grant a ddyfarnwyd iddynt yn ddiweddar.

Bu cais y Theatr i Gyngor Celfyddydau Cymru am £5,000 yn llwyddiannus, a dyfarnwyd £4,702 i Gyfeillion Theatr Felinfach gan Gronfa’r Loteri Fawr.

Hefyd, dyfarnwyd £500 i Gyfeillion Theatr Felinfach gan Grant Cymunedol Ceredigion ac maent wedi bod yn ffodus iawn i dderbyn rhoddion hael tuag at gost y prosiect gan nifer o Gynghorau Cymuned a Thref, gan gynnwys, Blaenrheidol, Ciliau Aeron, Henfynyw, Llanarth, Llanfihangel Ystrad, Llangoedmor, Llambed, Llangrannog, Llanwenog ac Ystrad Meurig. Mae Theatr Felinfach hefyd wedi derbyn rhodd o £250 gan gwmni Bwydydd Castell Howell Cyf.

Dywedodd Rhian Dafydd, rheolwr busnes a marchnata Theatr Felinfach: “Bydd y prosiect yn sicr o ennyn brwdfrydedd a diddordeb, wrth i dalentau lleol gael y cyfle i weithio gyda chriw proffesiynol mewn cynhyrchiad unigryw o’r sioe eiconig hon.”

Cynhelir tri pherfformiad o Teilwng yw’r Oen ar 12, 13 a 14 Ionawr 2017, ac mae tocynnau ar gael nawr. Cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 01570 470697 neu ewch i www.theatrfelinfach.cymru

Llun: Non Williams a Deiniol Wyn Rees

Rhannu |