Mwy o Newyddion
Gerallt yn graddio ym Mangor
MAE ffotograffydd o fri, sydd yn gyn-gynghorydd sir yng Ngwynedd, wedi graddio ym Mhrifysgol Bangor yr wythnos hon.
Graddiodd Gerallt Llewelyn, sy’n 68 oed ac sy’n dod o Garmel ger Caernarfon, gyda gradd BA dosbarth cyntaf (Anrh.) mewn Astudiaethau Cyfun. Mae Gerallt wedi bod yn briod â Nerys am 45 mlynedd ac mae ganddynt ddwy ferch a chwech o wyrion ac wyresau.
Mae ganddo dros 35 mlynedd o brofiad o weithio fel ffotograffydd proffesiynol, gan wneud popeth o ddigwyddiadau mawr i briodasau.
Mae Gerallt hefyd wedi gweithio llawer yn niwydiannau ffilm a theledu, y wasg a chysylltiadau cyhoeddus.
Mae Gerallt wedi tynnu lluniau mewn llawer o ddigwyddiadau ac mewn llawer o seremonïau graddio yn y Brifysgol dros y blynyddoedd, ond yn ystod y seremoni raddio hon, tro Gerallt fydd hi i gael y sylw.
Dywedodd Gerallt: “Dwi’n falch iawn o fod yn graddio ac mae’n dipyn o ryddhad. Dw i wedi bod eisiau astudio am radd ers tro byd a dwi wastad wedi cael fy ysbrydoli wrth ddod i dynnu lluniau mewn digwyddiadau amrywiol ym Mhrifysgol Bangor.
“Dwi wir wedi mwynhau’r cwrs a dwi wedi cael gweithio ar brosiectau diddorol fel edrych yn ôl ar America yn y 60au, ar farwolaeth Kennedy ac argyfwng Cuba, ac ar gyfnod Thatcher a streic y glowyr; dwi’n eu cofio nhw’n iawn.
“Uchafbwynt y radd oedd gweithio ar y traethawd hir am waith a bywyd chwarelwyr Sir Gaernarfon rhwng 1850 a 1905. Ro’n i’n canolbwyntio ar Streic y Penrhyn a ddigwyddodd rhwng 1900 ac 1903, gan edrych ar y rhyfel dosbarth ac ar ystyfnigrwydd yr Arglwydd Penrhyn.
“Y cwestiwn y gwnes i ei ofyn oedd a ddylai’r streic fod wedi dod i ben ar ôl blwyddyn gan ei bod yn frwydr amhosibl i’w hennill, ac yn un a achosodd ddrwgdeimlad yn yr ardal am flynyddoedd lawer.
"Ro’n i’n edrych hefyd ar farwolaeth fy hen daid a fu farw mewn damwain yn chwarel Dinorwig ac ar y ffaith nad oedd y teulu, na chwarelwyr eraill, mor dlawd ag y maent wedi cael eu portreadu’n draddodiadol.
“Yn ystod fy astudiaethau, cefais ddiagnosis o ganser y prostad ym mis Mawrth 2015 a ymledodd i’r asgwrn cefn yr haf diwethaf.
"Rwyf wedi cael llawer o driniaethau ac wedi bod drwy gyfnod o’i chael hi’n anodd cerdded a chydsymud. Ond er i hwn fod yn gyfnod anodd, ro’n i hyd yn oed yn fwy penderfynol o gwblhau fy ngradd.
“Dwi’n ddiolchgar iawn i’r Brifysgol am ei chymorth ac am yr anogaeth gadarnhaol rydw i wedi ei chael drwy gydol fy astudiaethau. Roedd o’n brofiad pleserus iawn a dwi’n falch iawn o fod yn graddio.”