Mwy o Newyddion
Adam Price - Plaid yn sicrhau enillion pellach mewn cytundeb hanesyddol ar y gyllideb Gymreig
Mae Ysgrifennydd Cabinet Cysgodol Plaid Cymru dros Fusnes, yr Economi a Chyllid Adam Price AC heddiw wedi amlygu’r enillion pellach sydd wedi eu sicrhau gan ei blaid fel rhan o’r Gyllideb Gymreig.
Mae’r gyllideb derfynol a gyhoeddwyd heddiw yn cynnwys manylion cyllid ychwanegol sydd wedi ei sicrhau o ganlyniad i drafodaethau pellach rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru ers Datganiad yr Hydref.
Mae’r cyllid ychwanegol yn berthnasol i dri phrif faes:
- £10m ychwanegol i gefnogi busnesau a effeithir gan newidiadau i drethi busnes
- £15m ychwanegol dros bedair blynedd i’r Gronfa Trafnidiaeth Leol
- £50m dros bedair blynedd i gyflymu’r gwaith ar ffordd osgoi A483 Llandeilo
Dywedodd Adam Price AC fod y cytundeb hanesyddol yn cynrychioli “aeddfedrwydd newydd” yng ngwleidyddiaeth Cymru gyda Phlaid Cymru’n llwyddo i ddelifro fel gwrthblaid wrth barhau i ddwyn y llywodraeth i gyfrif.
Meddai: “Mae Plaid Cymru’n falch o fod wedi sicrhau’r cytundeb cyllideb un-flwyddyn mwyaf ers dechrau datganoli.
“Bydd y cytundeb hanesyddol hwn yn golygu fod miliynau o bunnoedd yn cael eu buddsoddi mewn iechyd, addysg ac isadeiledd er mwyn sicrhau buddiannau go iawn i fywydau pobl Cymru.
“Fel rhan o’r gyllideb ddrafft a gyhoeddwyd fis Hydref, llwyddodd Plaid Cymru i sicrhau ymrwymiad o £119m gan Lywodraeth Cymru ar gyfer ein haddewidion maniffesto, yn ogystal a £160m ychwanegol ar gyfer blaenoriaethau polisi sydd wedi eu hadnabod fel tir cyffredin rhyngom ni a Llafur.
“Ar ben hyn, rydym wedi cynnal trafodaethau pellach ers Datganiad yr Hydref sydd wedi arwain at £65m ychwanegol o wariant cyfalaf ar gyfer ffyrdd a thrafnidiaeth leol, yn ogystal a £10m o gymorth i fusnesau bach yng Nghymru.
“Drwy gymryd rhan yn y broses negodi, mae Plaid Cymru wedi gwella sgôp a sylwedd y gyllideb hon gan orfodi Llywodraeth Cymru i godi ei golygon.
“Mae’r cytundeb hwn yn cynrychioli aeddfedrwydd newydd yng ngwleidyddiaeth Cymru ble fo gwrthblaid megis Plaid Cymru yn medru llwyddo i ddelifro newid ystyrlon wrth barhau i ddwyn y llywodraeth i gyfrif mewn modd cadarn a chyfrifol.”