Mwy o Newyddion
Croesawu tro pedol ar arian i atal llifogydd
Mae AC Plaid Cymru dros Arfon, Sian Gwenllian wedi croesawu ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru i leihau toriadau arfaethedig i gynlluniau gwarchod rhag llifogydd fel rhan o’r gyllideb derfynol y cyhoeddwyd heddiw, 20 Rhagfyr.
Bydd y toriad yn llai oherwydd y defnyddir gwariant cyfalaf ychwanegol a ddaw i Gymru o ganlyniad i Ddatganiad yr Hydref a gyhoeddwyd gan Ganghellor y DG fis diwethaf.
Adeg cyhoeddi Datganiad yr Hydref, plediodd Plaid Cymru achos dros wario unrhyw arian ychwanegol fyddai’n dod i Gymru ar amddiffynfeydd rhag llifogydd ymysg pethau eraill.
Meddai Sian Gwenllian AC sydd ar Bwyllgor Newid Hinsawdd y Cynulliad: "Dyma dro pedol i’w groesawu gan Lywodraeth Cymru yn dilyn sylwadau a wnaed gan Blaid Cymru.
"Pan gynigiodd y Llywodraeth Lafur y toriad o 36% i gynlluniau gwarchod rhag llifogydd i ddechrau, gwrthwynebodd Plaid Cymru symudiad o’r fath yn gryf.
"Nid yn unig mae cynlluniau gwarchod rhag llifogydd yn chwarae rhan hanfodol yn amddiffyn cartrefi a’n cymunedau yn ehangach, ond y maent hefyd yn allweddol yn y frwydr yn erbyn newid hinsawdd.
"Dyma ein barn ni ym Mhlaid Cymru, a dyna pam y gwnaethom ymateb i Ddatganiad yr Hydref fis diwethaf trwy annog Llywodraeth Cymru i wario unrhyw arian ychwanegol fyddai’n dod i Gymru ar amddiffynfeydd llifogydd a buddsoddiadau eraill mewn seilwaith.
"Mae ardaloedd fel ffordd ddeuol yr A55 yn f’etholaeth i wedi eu taro’n galed gan lifogydd dros y blynyddoedd, ac yr wyf yn falch yr aiff yr arian hwn beth o’r ffordd at liniaru problemau o’r fath.
"Un yn unig yw hwn o’r pynciau y buom ni’n dwyn pwysau yn eu cylch yn ystod ein trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru ac y mae’n dangos sut mae Plaid Cymru yn cyflawni ein haddewid i gyflwyno fel gwrthblaid."