Mwy o Newyddion

RSS Icon
20 Rhagfyr 2016

Gwrthod cais am drwydded ar gyfer safle tirlenwi yn Sir y Fflint

MAE Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi gwrthod cais am drwydded ar gyfer safle tirlenwi yn Sir y Fflint, oherwydd gallai fod yn niweidiol i’r amgylchedd.

Mae CNC wedi penderfynu  y gallai’r cais am safle tirlenwi ar gyfer gwastraff nad yw’n beryglus yn Chwarel Parry, Alltami, greu problemau posib yn ymwneud ag arogl a dŵr daear.

Mae CNC wedi rhoi gwybod i’r cwmni, RJS Engineering, am ei benderfyniad.

Meddai Paul Wright, arweinydd tîm rheoleiddio diwydiannau Cyfoeth Naturiol Cymru: “Rydym wedi ystyried yn ofalus, ac mae sawl agwedd ar y cais yn annerbynniol.

“Mae’r cwmni wedi methu â chyfiawnhau na fyddai eu cynigion yn niweidio’r amgylchedd.

“Mae ganddon ni bryderon y gallai’r cynllun posib greu arogl sylweddol yn yr ardal ac fod potensial iddo effeithio ar ddŵr daear.

“Byddai hyn yn cael effaith niweidiol ar yr ardaloedd preswyl a’r busnesau gerllaw.

“Dim ond os byddwn yn fodlon fod cynlluniau yn nodi’n glir y gall weithredu’n ddiogel, heb niweidio’r amgylchedd na chymunedau lleol, y byddwn yn rhoi trwydded amgylcheddol i gwmni.

“Yn yr achos hwn, dydy ein pryderon heb eu hateb.”

Rhannu |