Mwy o Newyddion

RSS Icon
19 Rhagfyr 2016

Dadorchuddio cerflun i goffau arloeswr theatr

AR un adeg roedd rhai yn tybio y byddai’r theatr yn Pontio, Bangor yn cael ei henwi ar ôl yr arloeswr ym myd y ddrama Gymraeg, Wilbert Lloyd Roberts.

Nid felly oedd hi i fod yn y diwedd er siom i lawer o’i gefnogwyr a dewiswyd Theatr Bryn Terfel yn enw arni.

Er hynny, nos Sul cafodd y cyfarwyddwr ei anfarwoli yn adeilad Prifysgol Bangor pan dadorchuddiwyd ei gerflun mewn noson gyda Chôr Glanaethwy.

Roedd eu harweinydd, Cefin Roberts yn un o’r rhai i ‘Wilbert’ roi cyfle iddo yn nyddiau Cwmni Theatr Cymru fel amryw o actorion eraill yn yr wythdegau ac o’r chwedegau ymlaen.

Wedi ei hagor yn 1974 roedd Theatr Gwynedd yn ei bri ac yno ar y pryd yr oedd cartref y theatr Gymraeg a Wilbert Lloyd Roberts yn arweinydd arni.

Mae’n berygl na fyddai Canolfan Gelfyddydau ac Arloesi debyg i’r hyn a welir ym Mangor heddiw oni bai am ei weledigaeth.

“Fe roddodd wefr ei freuddwyd inni,” meddai’r bardd, Y Parch John Gwilym Jones, yn ei englyn iddo.

Ers tro bellach sefydlwyd cronfa gyda nod o £10,000 i’w goffau.

Yn y diwedd casglwyd digon o arian a chomisiynwyd Nick Elphick i greu’r ceflun a ddadorchuddiwyd nos Sul.

Yn ogystal, lansiodd Côr Glanaethwy eu cryno ddisg ddiweddaraf sy’n cynnwys rhai o’r caneuon a berfformiwyd ganddynt yn y gyfres Britain’s Got Talent rhyw flwyddyn yn ôl.

Haleliwia yw enw’r ddisg sydd eisoes wedi bod ar werth ar eu gwefan. 

Wedi’r Nadolig bydd y Côr yn teithio ar draws yr Iwerydd i berfformio yn y Carnegie Hall yn Efrog Newydd. 

Rhannu |