Mwy o Newyddion

RSS Icon
19 Rhagfyr 2016

Faint o ddefaid sy’ ’na yng Nghymru?

Mae ffigurau diweddar sy’n dangos cynnydd yn y niferoedd o ddefaid yng Nghymru yn arwydd o hyder yn nyfodol y diwydiant, medd Hybu Cig Cymru (HCC).

Mae’r cyfrifiad blynyddol, yn seiliedig ar Arolwg Amaeth a Garddwriaeth Mehefin 2016, newydd gael ei gyhoeddi. Dengys fod cyfanswm y defaid, a oedd yn disgyn o ddiwedd y 90au hyd at 2009, wedi cynyddu eto eleni.

Yn 2016, safai cyfanswm y defaid a’r ŵyn yng Nghymru ar 9.81 miliwn, sef cynnydd o 3.2% ers ffigurau y llynedd. Roedd y niferoedd o wartheg bridio bîff yn ddigyfnewid o gymharu â 2015.

Mae’r ystadegau yn newyddion da i’r sector cig coch yng Nghymru meddai Swyddog Gwybodaeth y Farchnad HCC John Richards.

“O uchafbwynt o bron 12 miliwn yn niwedd y 1990au, disgynnodd y niferoedd am rai blynyddoedd, yn bennaf oherwydd diwedd y taliadau o dan y Polisi Amaethyddol Cyffredin oedd yn seiliedig ar y nifer o anifeiliaid a gadwyd.

“Yn sgil y symudiad i daliadau sy’n seiliedig ar arwynebedd a gofal amgylcheddol, disgynnodd nifer y defaid i tua 8 miliwn.

“Ond yn y 6 mlynedd ddiwethaf bu cynnydd eto, ac mae cyfrifiad eleni yn dangos fod y cyfanswm bron wedi cyrraedd 10 miliwn unwaith eto."

“Yn sicr, mae heriau yn wynebu’r diwydiant cig oen o hyd,” esboniodd Mr. Richards.

“Mae’n rhaid sicrhau fod pawb - gan gynnwys ffermwyr a phroseswyr - yn cael pris da am eu cynnyrch yn bwysig, sy’n golygu parhau i addasu i ofynion y cwsmer.

"Mae ansicrwydd gwleidyddol o gwmpas Brexit hefyd yn golygu ei bod hi’n anodd darogan sut y bydd strwythurau cymorth ariannol a threfniadau masnach yn effeithio maint y ddiadell Gymreig.”

Rhannu |