Mwy o Newyddion

RSS Icon
16 Rhagfyr 2016

Ai chi yw 'Thespis' neu 'Un o'r Cwm'

Mae’r Eisteddfod wedi lansio apêl i gael hyd i ddau gyn-gystadleuydd a gymerodd ran yn yr Eisteddfod bedair blynedd yn ôl ym Mro Morgannwg.

Maent yn chwilio am ddau berson – un wedi defnyddio’r  ffugenw ‘Thespis’a’r llall wedi galw’i hun yn ‘Un o’r Cwm’  i gymryd rhan yn y gystadleuaeth cyfieithu neu drosi drama. 

Dewisodd y ddau – neu’r ddwy -  gyfieithu drama enwog Edward Albee, ‘Who’s Afraid of Virginia Woolf?’ yn y gystadleuaeth, gan dderbyn beirniadaethau cadarnhaol, er na ddaeth yr un o’r ddau i’r brig.

Meddai  Elen Elis, Trefnydd yr Eisteddfod: “Rydym yn awyddus i gael hyd i ‘Thespis’ ac ‘Un o’r Cwm’ gan ein bod wedi derbyn cais am gopi Cymraeg o ‘Who’s Afraid of Virginia Woolf’ ac angen cytundeb y cyfieithydd. 

"Gobaith pob dramodydd a’r sawl sy’n cyfieithu drama neu waith yw y bydd y gwaith yn gweld golau dydd, ac rydym yn awyddus i siarad gyda ‘Thespis’ ac ‘Un o’r Cwm’ er mwyn ceisio gwireddu hyn.

“Gan nad oedd yr un o’r ddau’n llwyddiannus yn y gystadleuaeth, mae’r gwaith a’r amlenni dan sêl – na gafodd eu hagor - gyda manylion yr awduron wedi’u storio yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth, a dyna pam rydym yn apelio’n gyhoeddus ar ‘Thespis’ ac ‘Un o’r Cwm’ i gysylltu gyda ni.”

Dylai ‘Thespis’ ac ‘Un o’r Cwm’ gysylltu gyda Sioned Edwards yn Swyddfa’r Eisteddfod drwy e-bostio sioned@eisteddfod.org.uk neu ffonio’r swyddfa ar 0845 4090 300.

Rhannu |