Mwy o Newyddion

RSS Icon
14 Rhagfyr 2016

Actores a enwebwyd am BAFTA yn annog menywod beichiog i gael brechlyn ffliw

MAE’R actores a enwebwyd am BAFTA, Catherine Ayers, yn gyfarwydd â derbyn rolau heriol ar lwyfan a sgrin ond mae newydd gychwyn ar rôl arall heb unrhyw sgript i’w ddarllen na llinellau i’w dysgu.

Ganed ei phlentyn cyntaf, Albi, ychydig wythnosau yn ôl a fe yw canolbwynt y sylw erbyn hyn. 

Enillodd Catherine enwebiad actores orau BAFTA am ei rôl fel newyddiadurwraig wleidyddol ddi-ildio yn y gyfres lwyddiannus Byw Celwydd ar S4C, ond gan mai dim ond rai misoedd yn ôl y daeth y ffilmio i ben ar yr ail gyfres, roedd yn dipyn o her cuddio ei bwmp babi oedd yn tyfu’n gyson.

Ond cyn cael ei baban, roedd gan Catherine amser i un rôl serennu arall, yn fideo codi ymwybyddiaeth ymgyrch Curwch Ffliw sy’n hyrwyddo pwysigrwydd cael y brechiad ffliw, yn enwedig os ydych yn un o’r grwpiau “risg”.

Meddai: “Roedd rhaid imi ddysgu’n gyflym beth roedd angen imi ei wneud i helpu cadw fy hun a’m baban yn iach.

“Roedd hyn yn cynnwys sut ddylwn i ofalu am fy hunan a pha bigiadau oedd eu hangen arna i.

“Cefais frechiad y pas i ddiogelu fy maban a brechlyn y ffliw i ddiogelu’r ddau ohonom.

“Doeddwn i ddim yn sylweddoli pa mor beryglus all ffliw fod, a phan gafodd Albi ei eni’n gynnar roeddwn yn falch iawn mod i wedi cael y ddau frechlyn. 

“Roedd mor fach, ac fe wnaethon nhw helpu ei amddiffyn pan oedd fwyaf tebygol o gael haint.

“Mae cael y brechlynnau hyn yn bwysig iawn yn ystod beichiogrwydd gan eu bod yn fy amddiffyn i, ond hefyd fy maban bach hefyd – rheswm go dda i’w cael yn fy marn i.

“Byddwn yn annog pob menyw feichiog i beidio colli’r cyfle i gael yr amddiffyniad pwysig hwn.”

Mae’r ffilm newydd, gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, yn pwysleisio pwysigrwydd y brechlyn ffliw, yn enwedig felly i’r sawl mewn grwpiau “risg” fel yr esbonia Anne McGowan, Ymgynghorydd Nyrsio (a Bydwraig) yn Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Gall menywod beichiog ddioddef cymhlethdodau os cânt ffliw. Mae cael y brechlyn pan yn feichiog yn ddiogel ac mae’n cynnig amddiffyniad da i fenywod beichiog a’u babanod. 

“Mae hefyd yn rhoi rhywfaint o amddiffyniad i’r baban yn ystod misoedd cyntaf bywyd, sy’n arbennig o bwysig gan ein bod yn disgwyl gweld ffliw’n cynyddu dros y misoedd nesaf. Mae’r ffilm hon yn ffordd arall o amlygu pwysigrwydd y neges – rydym eisiau lledu’r gair, ac nid y ffliw!

“Gellir rhoi’r brechlyn ffliw ar unrhyw adeg yn ystod beichiogrwydd, felly os ydych yn feichiog mynnwch ei gael cyn gynted â phosib i’ch amddiffyn dros y gaeaf eleni.”

Mae ffliw yn salwch anadlol sy’n cael ei achosi gan firws sy’n effeithio’r ysgyfaint a’r llwybrau anadlu.

Yn gyffredinol, mae’r symptomau yn ymddangos yn sydyn, a gallant gynnwys twymyn, rhynnu, cur pen/pen tost, y corff yn gwynegu a blinder.

Caiff firws y ffliw ei wasgaru trwy ddiferion sy’n cael eu chwistrellu i’r awyr pan mae person sydd wedi’i heintio yn pesychu neu’n tisian.

Mae cyswllt uniongyrchol â dwylo neu arwynebau a heintiwyd hefyd yn gallu gwasgaru’r haint.

Gall ledu’n gyflym iawn, yn enwedig felly mewn cymunedau caeedig fel ysbytai, cartrefi preswyl ac ysgolion.

Gellir gwylio’r ffilm, “Curwch Ffliw yn y cartref” ar YouTube yn: https://www.youtube.com/watch?v=-wrsfecWozw

Gallwch ddysgu mwy trwy fynd i http://www.curwchffliw.org  neu http://www.beatflu.org neu trwy ddod o hyd i Curwch Ffliw neu Beat Flu ar Twitter a Facebook.

Er mwyn cael mwy o wybodaeth am frechiad y pas yn ystod beichiogrwydd: http://www.nhsdirect.wales.nhs.uk/doityourself/pregnancy/WhoopingCough/

Llun: Yr actores Catherine Ayers gyda’i phlentyn cyntaf Albi

Rhannu |