Mwy o Newyddion

RSS Icon
14 Rhagfyr 2016

Pa mor debygol ydyn ni o gael Nadolig gwyn yng Ngogledd Cymru eleni?

Mae’r tebygolrwydd o gael Nadolig gwyn eleni yn uwch nag efallai y byddech yn tybio yn ôl yr Athro Tom Rippeth o Ysgol Gwyddorau Eigion Prifysgol Bangor.

Wrth asesu’r tebygolrwydd o fod dan haen o eira dros y Nadolig dywedodd: "Tra bod ein hinsawdd yn newid fel mae hyd y diwrnod yn newid, gyda llai o oriau o haul yn gwthio’r tymheredd i lawr yn y gaeaf, o’i gymharu â gwres yr haf, mae ein tywydd yn llawer mwy cyfnewidiol na hyn, oherwydd lleoliad Prydain ar y ffin rhwng màs awyr oer o Begwn y Gogledd a màs awyr tymherus cynnes.

"Yr elfen sy’n penderfynu p’un ai’r aer oer o’r pegwn sy’n effeithio ar ein tywydd, neu’r aer cynnes, yn ôl ei leoliad, yw’r gwynt a geir ar lefel uchel iawn, sef y jetlif.

"Dros y blynyddoedd diwethaf, mae’r jetlif wedi bod ar linell syth, yn gwthio stormydd ar draws Môr Iwerydd, gyda gaeafau tyner a rhai stormydd trychinebus a llifogydd o ganlyniad.

"Fodd bynnag,  y gaeaf hwn, mae’r jetlif yn edrych yn dra gwahanol, ac yn dilyn llwybr troellog.

"O ganlyniad i symud y jetlif i'r de ac yna i’r gogledd, mae ein tywydd yn llawer mwy cyfnewidiol, gyda chyfnodau oer iawn fel y cawsom yn ddiweddar yn cael ei ddilyn gan dywydd llawer cynhesach fel yn y dyddiau diwethaf.

"Mae pob cyfle felly i’r jetlif grwydro i’r de eto cyn y Nadolig, gan ddod â’r aer oer o’r Arctig, a’r posibilrwydd o eira dros y Nadolig.

"Mae’r amgylchiadau atmosfferig yr ydym yn eu profi ar hyn o bryd yn debyg i’r rhai a welwyd yng ngaeafau oer iawn 2010/ 2011.

"Mae gogledd Cymru’n dueddol o brofi'r naill begwn neu’r llall o ran tywydd gaeafol.

"Mae gwres y gwyntoedd de- orllewinol yn ymchwyddo wrth iddynt fynd dros Fynyddoedd Cambria ac Eryri , drwy yr hyn a elwir yn effaith gwynt “Fohn”.

"Cofnodwyd tymheredd ucha’r gaeaf yn y Deyrnas Unedig, sef 18.3 gradd C,  yn Aber, ger Bangor fis Ionawr 1958 ac eto yn Ionawr 1971. Roedd y tymheredd yn agos i hyn eto noswyl Nadolig y llynedd.

"Ar y llaw arall gall y gwyntoedd oer o’r Arctig sy’n chwythu o’r gogledd a’r dwyrain godi gwlybaniaeth fel y maent yn chwythu dros Fôr Iwerddon, ac yna syrthio fel eira dros ogledd Cymru.”

Rhannu |