Mwy o Newyddion

RSS Icon
14 Rhagfyr 2016

Dadl Plaid i alw am bolisi ‘dim troi allan’ i warchod plant yng Nghymru

Heddiw bydd Grwp Cynulliad Plaid Cymru yn cynnal dadl yn y Senedd ar y mater o blant mewn cartrefi sy’n wynebu cael eu troi allan yng Nghymru.

Mae ymchwil gan Shelter Cymru yn amcangyfrif ar gyfer 2015-16 for 500 o blant wedi eu troi allan o gartrefi cymdeithasol, gyda’r broses yn costio tua £24.3 miliwn y flwyddyn i Wasanaethau Cyhoeddus Cymru.

Bydd y ddadl yn cael ei harwain gan yr AC Plaid Cymru dros Orllewin De Cymru, Bethan Jenkins AM, ac yn canolbwyntio ar yr hyn ddylai Llywodraeth Cymru fod yn ei wneud i daclo’r broblem.

Mae disgwyl i Bethan Jenkins AC ddweud: “Rhwng y ddadl hon a’r Nadolig, bydd 16 o blant yn colli eu cartrefi yn dilyn cael eu troi allan.

“Bydd Gwasanaethau Cyhoeddus Cymreig yn gwario dros £600,000 yn delio gyda chanlyniadau hyn.

“Mae’r plant yn debygol o wynebu oes o sgil-effeithiau ar eu hiechyd, eu haddysg, ac o ganlyniad eu lefelau incwm.

“Mae hi’n iawn fod Llywodraeth Cymru wedi eu canmol am gyflwyno dyletswydd i atal digartrefedd ar awdurdodau lleol.

“Ond dim ond rhan o’r hyn y dylid ei wneud i atal pobl rhag cael eu troi allan ac atal digartrefedd yw deddfwriaeth. Mae llawer mwy y dylai Llywodraeth Cymru a Llywodraeth Leo lei wneud i sicrhau fod gennym bolisi ‘dim troi allan’ i blant.

“Rhaid sicrhau fod landlordiaid cymdeithasol, cymdeithasau tai ac adrannau budd-dal tai yn cyfathrebu’n well gyda’i gilydd.

“Dylid hefyd hyfforddi swyddogion tai yn well er mwyn adnabod ffactorau all fod y tu ol i’r ffaith fod pobl yn methu taliadau rhent megis problemau iechyd meddwl, camddefnydd cyffuriau neu ymddygiad gwrth-gymdeithasol.

“Nid yw hi fyth yn deg i gosbi plentyn am ymddygiad eu rhieni. Mae’r sefyllfa bresennol yn methu cannoedd o bobl ifanc bregus yng Nghymru – rhaid rhoi terfyn ar hyn.”

Llun: Bethan Jenkins

Rhannu |