Mwy o Newyddion

RSS Icon
14 Rhagfyr 2016

Bwrdd BBC Cymru ar ei newydd wedd yn gyflawn yn dilyn dau benodiad

Mae BBC Cymru wedi penodi Sian Gwynedd yn Bennaeth Cynhyrchu Cynnwys BBC Cymru a Richard Thomas yn Bennaeth Marchnata a Digidol.  Mae’r penodiadau yn golygu fod Bwrdd Rheoli’r darlledwr yn gyflawn.

Mae’r penodiadau i’r swyddi newydd yma yn rhan o gynllun BBC Cymru i greu strwythur mwy syml fydd yn cyflymu penderfyniadau ac annog cydweithio.

Fel Pennaeth Cynhyrchu Cynnwys bydd Sian Gwynedd yn gyrru partneriaeth a datblygiad ar draws y gymuned gynhyrchu yn ogystal ag ymgymryd ag ystod eang o ddyletswyddau.

Bydd Sian yn parhau i adeiladu ar y bartneriaeth gydag S4C, datblygu fframwaith uchelgeisiol ar gyfer datblygiad talent cynhyrchu, sicrhau bod BBC Cymru yn cyrraedd y targedau amrywiaeth ar yr awyr, a chefnogi datblygiad rhaglenni radio rhwydwaith.

Fel Pennaeth Digidol a Marchnata, bydd Richard Thomas yn arwain ar y gwaith o gynorthwyo cynulleidfaoedd i ddod o hyd i gynnwys BBC Cymru ar draws platfformau darlledu, gan gynnwys ymgyrchoedd, deunydd creadigol ar y sgrin, creu cynnwys digidol, strategaeth brand, mewnwelediad cynulleidfaol, cyfathrebu ac amserlennu.

Bydd Sian a Richard hefyd yn gweithio’n agos gyda’r tîm sy’n arwain ar y ganolfan ddarlledu newydd yn y Sgwâr Canolog yng Nghaerdydd gan sicrhau fod fframwaith mewn lle i hwyluso cydweithio pellach ac i sicrhau gwerth am arian i dimau cynhyrchu a’r rhai sy’n talu ffi’r drwydded.

Dywed Cyfarwyddwr BBC Cymru, Rhodri Talfan Davies: “Mae Sian a Richard yn barod wedi cyflawni cymaint yn ystod eu hamser yn BBC Cymru.

"Bydd y ddau yn parhau i ddod a’u cryfderau a’u talentau i’r Bwrdd, gan helpu BBC Cymru i gyflawni ei gynlluniau uchelgeisiol ar gyfer y dyfodol.”

Dywed Sian Gwynedd: “Dyma amser cyffrous a heriol tu hwnt ac rwy’n edrych ymlaen at weithio ar draws BBC Cymru yn ogystal â chryfhau’r bartneriaeth efo S4C.

"Mae sicrhau ein bod yn cyfleu’r Gymru gyfoes yn ganolog i sicrhau ein bod yn parhau yn berthnasol i’n cynulleidfaoedd, ‘rwan ac i’r dyfodol.”

Dywed Richard Thomas: “Mae’n fraint cael ymgymryd â’r sialens yma, gyda chymaint o gyfleoedd i’r adran newydd eu darganfod.

"Byddwn yn adran gynhyrchu holl bwysig, gyda ffocws ar y gynulleidfa, yn enwedig cynulleidfaoedd ifanc.

"Byddwn hefyd yn rhan flaenllaw o ymateb BBC Cymru i’r tirwedd darlledu, sy’n newid yn barhaol wrth i ddewisiadau a chwaeth cynulleidfaoedd newid mor sydyn.

"Ac er mwyn cadw i fyny efo’r newid – a symud gam o’i flaen – dwi’n benderfynol y byddwn yn sicrhau ffocws ar arloesedd a chreadigrwydd.”

Llun: Sian Gwynedd

Rhannu |