Mwy o Newyddion

RSS Icon
14 Rhagfyr 2016

Rhian ysbrydoledig yn derbyn gwobr cyflawniad oes yn yr ‘Oscars’ gofal cymdeithasol

Mae un o “ysbrydolwyr” y maes gofal cymdeithasol yng Nghymru wedi cael ei hanrhydeddu am ei blynyddoedd lawer o wasanaeth ymroddedig.

Yng Ngwobrau Gofal Cymru 2016, sy’n cael eu hystyried fel yr ‘Oscars’ gofal cymdeithasol, cafodd Gwobr Cyflawniad Oes Craig Thomas ei chyflwyno i Rhian Huws Williams, a ymddeolodd fis Mehefin diwethaf ar ôl 15 mlynedd fel prif weithredwr cyntaf Cyngor Gofal Cymru.

Bu Rhian, sy’n dod o Lanefydd ger Dinbych, yn weithiwr cymdeithasol a hyfforddwr cyn mynd ymlaen yn 2001 i oruchwylio ffurfio’r Cyngor Gofal, ac yna dod yn bennaeth ar y corff annibynnol sy’n rheoleiddio a datblygu addysg a hyfforddiant proffesiynol y gweithlu gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Chwaraeodd ran flaenllaw wrth lunio polisïau a strategaethau allweddol y Cyngor Gofal a bu hefyd yn aelod o nifer o gyrff llywodraeth dylanwadol yng Nghymru a thu hwnt.

Mae Gwobrau Gofal Cymru, sydd bellach yn eu 14eg flwyddyn, yn cael eu cynnal ar y cyd â Fforwm Gofal Cymru, corff nid-er-elw a sefydlwyd er mwyn galluogi darparwyr gofal annibynnol i siarad â llais proffesiynol unedig ar un o faterion pwysicaf ein hoes, sef sut i ddarparu gofal o ansawdd gwell i’r rhai sydd ei angen fwyaf.

Cynhaliwyd y seremoni wobrwyo ddisglair yn Neuadd y Ddinas, Caerdydd gyda’r canwr opera Wynne Evans, sef yr enwog Gio Compario o hysbysebion teledu Go Compare, yn arwain y digwyddiad.

Mae Gwobr Cyflawniad Oes Craig Thomas yn rhodd arbennig gan y beirniaid i gofio am gyn aelod cyngor blaenllaw o Fforwm Gofal Cymru. Cyflwynir y Wobr nodedig yma i rywun sydd wedi gwneud cyfraniad eithriadol i’r sector gofal cymdeithasol.

Cafodd Rhian, 58 oed, ei haddysg yn Ysgol Glan Clwyd cyn astudio yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor rhwng 1976 a 1979, gan ddychwelyd yno i wneud Gradd Meistr mewn gwaith cymdeithasol.

O 1988 roedd yn weithiwr cymdeithasol gyda hen Gyngor Sir Clwyd cyn cymryd ei swydd gyntaf ar draws y DU gyda’r Cyngor Canolog Addysg a Hyfforddiant mewn Gwaith Cymdeithasol.

Ar ôl cael ei phenodi yn brif weithredwr y Cyngor Gofal bu ar flaen y gad wrth fuddsoddi mewn gweithlu cynaliadwy, cymwys a diogel ar gyfer gwasanaethau gofal cymdeithasol. Chwaraeodd ran allweddol hefyd wrth ddatblygu’r gweithlu i fod yn un dwyieithog.

O dan ei chyfarwyddyd roedd y Cyngor Gofal ymhlith y sefydliadau mwyaf arloesol wrth osod amodau cadarn mewn perthynas ag addysg ddwyieithog ac addysg cyfrwng Cymraeg fel rhan o ddilysu cyrsiau prifysgol.

Bu Rhian yn aelod o sawl corff cynghori llywodraeth dylanwadol, gan gynnwys yr Adolygiad Gweinidogol ar Gymraeg i Oedolion a’r Comisiwn Annibynnol ar Wasanaethau Cymdeithasol.

Cadeiriodd y Grŵp Gweithredu ar Strategaeth Iaith Gymraeg ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol, `Mwy na Geiriau’, ac roedd yn aelod o gyngor City & Guilds.

Ym mis Ebrill y flwyddyn nesaf, bydd Cyngor Gofal Cymru, y bu ganddi ran mor ganolog yn ei ffurfio a’i arwain drwy ei flynyddoedd cynnar hollbwysig, yn cael ei ddisodli gan y corff newydd Gofal Cymdeithasol Cymru.

Dywedodd Rhian, sydd wedi byw yng Nghaerdydd am nifer o flynyddoedd, mai ei bwriad yn dilyn ei hymddeoliad yn yr haf oedd cymryd seibiant cyn dod yn ymgynghorydd a chynghorydd gwasanaethau cyhoeddus.

Wrth ennill y wobr arbennig cyflawniad oes dywedodd: “Rwyf wedi teimlo’n angerddol erioed dros godi proffil a statws y sector gofal cymdeithasol a’i weithlu.

“Roedd yn dipyn o syndod ond yn anrhydedd mawr iawn i dderbyn y wobr mewn digwyddiad mor bwysig sy’n rhoi lle canolog i weithwyr gofal.

“Roeddwn i’n adnabod Craig Thomas, y mae’r wobr wedi ei henwi ar ei ôl, ac rwy’n gwybod cymaint y gwnaeth ef ei hun i godi proffil a chymell safonau uchel yn y sector.

“Rwy’n teimlo’n ostyngedig iawn wrth dderbyn gwobr fel hon mewn ystafell llawn o bobl sy’n gwneud rhai o’r swyddi pwysicaf yn y maes gwasanaethau cymdeithasol ac yn gweithio gyda’r rhai sydd angen gofal ac urddas.”

Dywedodd Mario Kreft MBE: “Mae Rhian yn un o ysbrydolwyr y sector gofal cymdeithasol yng Nghymru.

“Mae hi wedi arwain y Cyngor Gofal a’r sector drwy rai o’r newidiadau mwyaf arwyddocaol mewn cenhedlaeth.

“Mae’r wobr yn haeddiannol iawn ac yn gydnabyddiaeth o’i chyfraniad amhrisiadwy i’r sector yng Nghymru a hefyd yn rhyngwladol.”

Llun: Rhian Huws Williams

Rhannu |