Mwy o Newyddion
Angen estyn Safonau Iaith i'r banciau medd Cymdeithas yr Iaith
Mae mudiad iaith wedi gwneud cwyn ffurfiol i'r Ombwdsmon Ariannol wedi i HSBC diddymu cyfraniadau ariannol i Gymdeithas yr Iaith am gyfnod yn dilyn llwyddiant i'w orfodi i ddarparu ffurflen Gymraeg.
Ym mis Mai eleni, bygythiodd y banc gau cyfrifon banc Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi'r mudiad mynnu derbyn ffurflen Gymraeg.
Wedi'r ffrae, anfonodd y banc ffurflen Gymraeg gan roi tan ganol mis Hydref iddyn nhw ymateb.
Fodd bynnag, am ddeuddydd, fe gaeodd y cwmni cyfrif y mudiad ar gam gan feddwl bod y ffurflenni heb gael eu dychwelyd mewn pryd.
Ymddiheurodd swyddogion HSBC, ac ail-agor y cyfri, ond, yn y cyfamser, roeddynt wedi dileu archebion banc cannoedd o aelodau a chefnogwyr y Gymdeithas, a dderbyniodd llythyrau uniaith Saesneg gan y banc yn eu hysbysu bod y cyfrif wedi cael ei gau.
Mae cyfrif y mudiad bellach yn gweithio'n iawn, ond mae’r mudiad wedi gwneud cwyn yn dilyn yr holl drafferthion y maent wedi eu dioddef.
Yn y cwyn swyddogol i'r Ombwdsmon, medd y mudiad: "Ers y llynedd, mae HSBC wedi bod yn bygwth, ac, unwaith, wedi, cau ein cyfrif banc oherwydd diffygion yn eu prosesau mewnol ac iddyn nhw wrthod darparu ffurflenni Safeguard yn Gymraeg.
"Yn gyntaf, roedd rhaid i ni frwydro i sicrhau bod y ffurflenni Safeguard yn cael eu darparu yn Gymraeg.
"Ar fwy nag un achlysur, gwrthododd HSBC eu darparu yn Gymraeg. Roedd rhaid i ni apelio at Lywodraeth Cymru, Comisiynydd y Gymraeg a mynd at y wasg i gwyno am eu hagwedd.
"Achosodd y bygythiad o gau ein cyfrif banc - sy'n hanfodol i fodolaeth ein mudiad - ynghyd â'r holl lythyru, galwadau ffôn, paratoi datganiadau i'r wasg a phledio gyda'r banc, straen ar ein staff a'n gwirfoddolwyr.
"… heb roi gwybod i ni, caeodd HSBC ein cyfrif ar … [a] [ch]ymerodd gryn amser iddyn nhw gadarnhau mai nhw oedd ar fai...
"Dywedodd y banc wrthym, wedi iddyn nhw ail agor y cyfrif, na fyddai unrhyw archebion banc yn cael eu heffeithio gan hyn ac mai dim ond ychydig o gannoedd o bunnau oedd heb eu prosesu'n iawn o ganlyniad i gau'r cyfrif.
"Yn amlwg, achosodd hyn lawer iawn o straen a phryder i'n staff a'n gwirfoddolwyr oedd yn pryderu na fyddai modd talu staff a biliau.
"Yr wythnos ganlynol, derbyniom alwadau ffôn a negeseuon gan ein haelodau sy'n bancio gyda HSBC yn rhoi gwybod i ni eu bod wedi derbyn llythyr uniaith Saesneg gan HSBC yn rhoi gwybod iddynt fod ein cyfrif banc wedi cau a bod eu harchebion banc nhw aton ni yn cael eu diddymu...
"Yn amlwg, effeithiodd y digwyddiadau hyn yn negyddol ar ein delwedd ymysg ein haelodau ynghyd ag achos rhagor o straen a phryder."
Ychwanegodd Sel Jones, Is-gadeirydd Gweinyddol Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: "Mae hyn oll yn profi unwaith eto bod rhaid cael deddf iaith sy'n cynnwys banciau er mwyn sicrhau hawliau sylfaenol i ddefnyddio'r Gymraeg.
"Mae rhan helaeth o bobl Cymru yn gorfod bancio, ond does dim modd bancio ar-lein yn Gymraeg ac mae rhywun yn gorfod brwydro i gael gwasanaethau sylfaenol eraill yn Gymraeg.
"Dyw e jyst ddim yn dderbyniol yn yr unfed ganrif ar hugain.
"Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cryfhau Mesur y Gymraeg flwyddyn nesa – mae'n hanfodol eu bod yn estyn y Safonau Iaith i weddill y sector breifat, gan gynnwys y banciau."
Llun: Sel Jones