Mwy o Newyddion
Daniel Davies yn ennill Gwobr Goffa Daniel Owen
Daniel Davies yw enillydd Gwobr Goffa Daniel Owen, Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam a’r Fro eleni, mewn cystadleuaeth a ddenodd chwech o lenorion.
Rhoddir Gwobr Goffa Daniel Owen am nofel sydd heb ei chyhoeddi gyda llinyn stor?ol cryf, heb fod yn llai na 50,000 o eiriau. Y beirniaid eleni oedd Emyr Llywelyn, Jon Gower ac Elin Llwyd Morgan. Rhoddwyd y wobr ariannol o £5,000 gan Siop y Siswrn Wrecsam a’r Wyddgrug a mawr yw ein diolch i’r perchnogion, Selwyn ac Anne Evans.
Tair Rheol Anrhefn, yw teitl y nofel fuddugol eleni, a dyma bedwaredd nofel Daniel Davies. Mae hefyd wedi cyhoeddi cyfrol o straeon byrion.
Ynddi, mae’r Athro Mansel Edwards a Dr Paul Price yn ddau wyddonydd yn Adran Gemeg Prifysgol Aberystwyth sy’n llwyddo i ganfod crisial hylifol newydd a fydd yn trawsnewid dyfodol y diwydiant teledu yn fyd-eang. Ond mae dau gwmni rhyngwladol eisiau dod o hyd i’w cyfrinach arloesol.
Hefyd, mae Paul yn llwyddo i ddinistrio’i berthynas gyda’i bartner, Llinos Burns, y noson cyn iddyn nhw fynd ar eu gwyliau cerdded ar hyd llwybr arfordir Sir Benfro. Felly, mae Paul yn mynd ar ei ben ei hun i Sir Benfro heb sylweddoli bod aelodau o’r ddau gwmni a theulu Llinos yn ysu am ei waed …
Mae’r nofel hon wedi’i symbylu gan straeon antur awduron fel John Buchan (The 39 Steps), Donald E Westlake (The Hot Rock) a Herman McNeile (Bull Dog Drummond) a ffilmiau fel North by Northwest a Three Days of The Condor. Fel pob un o nofelau’r awdur, mae ‘Tair Rheol Anrhefn’ yn ymdrin â’r frwydr i ennill rhyddid personol mewn cymdeithas sy’n mynnu ein bod ni’n gaeth i’r system gyfalafol sydd ohoni.
Mae ‘Tair Rheol Anrhefn’ yn codi cwestiynau am berthynas y wladwriaeth â’i dinasyddion. A yw llywodraethau Prydain yn gwasanaethu’r bobl neu a ydyn nhw’n gwasanaethu buddiannau cwmnïau rhyngwladol?
Mae’r nofel hefyd yn codi cwestiynau am gyfrifoldeb gwyddonwyr. A ddylen nhw greu datblygiadau arloesol heb feddwl am y goblygiadau? Dyma gwestiwn y bu gwyddonwyr yn ei bendroni ers y frwydr athronyddol rhwng Thomas Kuhn a Karl Popper yn ystod y 1960au.
Ar ben hyn oll, mae’r nofel yn ymdrin â sut mae unigolyn yn ymdopi - a cholli ei ddillad isaf yn rheolaidd - yn ogystal â cheisio gorffen perthynas gyda chymar sy’n benderfynol o sicrhau, yng ngeiriau Dic Jones, “y bydd y gwmnïaeth yn parhau, nid oes unigrwydd lle bo dau.”
Meddai Emyr Llywelyn ar ran ei gyd-feirniaid: “Dyma nofel ddeallus, gyfoes, llawn hiwmor gan nofelydd sy’n stor?wr wrth reddf - y math o stor?wr sy’n dal eich sylw ac yn eich cludo ar adain dychymyg i fyd arbennig ei ddychymyg ef ei hun.
“Ond y mae yma fwy na dawn dweud stori oherwydd y mae yma grefft saern?o nofel, cynllunio golygfa, adeiladu tensiwn, creu naws, llunio dialog disglair a gwneud cymeriadau’n fyw i ni. Un o rinweddau mawr y nofel yw ei bod yn darllen yn rhwydd ac yn gafael ynoch.
Rhinwedd fawr arall yn y nofel yw ei hiwmor. Mae’r awdur yma’n medru creu sefyllfaoedd digri sy’n gwneud i chi chwerthin yn uchel weithiau. Yn wir, teimlwn y byddai’r nofel yn gwneud ffilm ardderchog.”
Treuliodd Daniel Davies ddeng mlynedd cyntaf ei fywyd mewn gorsaf heddlu am fod ei dad, PC 253 Joe Davies, yn blismon pentref Llanarth yng Ngheredigion tan iddo ymddeol ym 1979.
Fe’i haddysgwyd yn Ysgol Gynradd Llanarth ac Ysgol Uwchradd Aberaeron cyn iddo gwblhau gradd mewn Cemeg a doethuriaeth yn yr un pwnc ym Mhrifysgol Aberystwyth. Ar ôl gweithio mewn canolfan alwadau ffôn ac yn y diwydiant adeiladu am gyfnod, bu’n ohebydd papur newydd y Cambrian News yn ardal Dyffryn Dyfi am chwe blynedd cyn cael swydd yn newyddiadurwr arlein gyda’r BBC.
Er iddo golli ei dad ym 1990, mae ei fam, Hannah Mary Davies, yn byw yn ardal ei mebyd yn Llanbedr Pont Steffan ac mae ei chwaer, Jennifer, a’i phlant, Ieuan a Jessica, yn byw ym Mhontsenni.
Mae Daniel yn byw gyda’i bartner, Linda, a’i thair merch, Lisa, Gwenno a Mari, y ddwy gath, Sws a Blod, heb anghofio Snwff y ci, ym Mhenbontrhydybeddau yng Ngogledd Ceredigion.
Cyhoeddodd ei nofel gyntaf Pele Gerson a’r Angel yn 2001 ac ers hynny mae wedi cyhoeddi cyfres o straeon byrion, sef Twist ar Ugain (2006), a’r nofelau Gwylliad Glyndŵr (2007) a Hei Ho (2009).
Bydd y nofel ar werth mewn siopau ar hyd a lled y Maes a thrwy Gymru yn syth ar ôl y seremoni.