Mwy o Newyddion
Leanne Wood: Y Prif Weinidog yn ‘gwyrdroi gwirionedd’ mewnfudo yng Nghymru
Mae Leanne Wood Arweinydd Plaid Cymru heddiw wedi beirnadu Prif Weinidog Cymru am “wyrdroi gwirionedd” mewnfudo yng Nghymru.
Defnyddiodd Leanne Wood sesiwn heddiw o Gwestiynau i’r Prif Weinidog i herio’r Prif Weinidog dros ei sylwadau fod safbwynt Arweinydd Llafur y DG ar fewnfudo yn “chwarae i ddwylo UKIP”.
Cyfeiriodd Arweinydd Plaid Cymru at ffigyrau sy’n dangos mai dim ond 2.6% o boblogaeth gyfan Cymru sy’n dod o wledydd eraill yr UE a bod mudwyr o’r UE yng Nghymru’n fwy tebygol o fod mewn gwaith na gweddill y boblogaeth.
Dywedodd Leanne Wood: “Mae’r ddadl ynghylch mewnfudo yn y DG gyfan wedi cyrraedd lefel digynsail o wallgofrwydd.
“Yn sgil hyn, nid oes trafodaeth resymol ynghylch sefyllfa unigryw Cymru wedi cymryd lle am fod y llwyodraeth Lafur wedi penderfynu bwydo yn hytrach na herio camsyniadau.
“Heddiw, fe wnes herio’r Prif Weinidog dros y gwahaniaethau rhyngddo ef ac Arweinydd Llafur y DG, Jeremy Corbyn ar fewnfudo.
“Yr wythnos diwethaf, cyhuddodd y Prif Weinidog Mr Corbyn o ‘chwarae i ddwylo UKIP’ yn dilyn ei benderfyniad i beidio rhoi tanwydd ar y tân o ran mewnfudo, ond ni allodd adnabod unrhyw wahaniaeth cadarn rhwng safbwynt y ddau ohonynt.
“Y gwirionedd yng Nghymru yw fod allfudo yn fwy o broblem na mewnfuo.
"Dim ond 2.6% o boblogaeth Cymru sy’n dod o wledydd eraill yr UE, tra bod ffigyrau’n dangos fod mudwyr yr UE yng Nghymru yn fwy tebygol o fod mewn gwaith na gweddill y boblogaeth.
“Ar yr un pryd, mae gormod o’n pobl ifanc medrus yn gadael y wlad i ceisio cyfleoedd eraill.
"Mae hefyd anghydbwysedd o fewn Cymru, gyda swyddi a ffyniant heb eu gwasgaru’n ddigonol ledled y wlad.
“Yn hytrach na gwastraffu egni ar ffraeo mewnol Llafur, dylai’r Prif Weinidog fod yn brwydro gyda’r Toriaid a’i toriadau llymder sydd wedi arwain at gwymp mewn cyflogau a cholli swyddi – materion y mae mewnfudwyr yn cael eu beio amdanynt yn rhy aml.”