Mwy o Newyddion

RSS Icon
13 Rhagfyr 2016

DEC yn lansio Apêl Argyfwng Yemen

Cyhoeddir lansiad apêl arbennig heddiw, 13 Rhagfyr, gan y Disasters Emergency Committee i helpu pobl sy’n wynebu newyn yn Yemen.

Bydd Clare Balding a Tom Hardy yn cyflwyno apêl ar y radio a’r teledu, gyda’r ddau yn cael eu darlledu heddiw.

Bydd yr apêl yn cael eu dangos gan brif darlledwyr y DU, gan gynnwys y BBC, ITV, Sianel 4, Sianel 5, Sky ac S4C.

Mae pobl Yemen, rhai o’r tlotaf yn y byd i gyd, yn agos at ben eu tennyn, wedi ugain mis o ryfel. Mae mwy na 7 miliwn o bobl yn Yemen sydd ddim yn gwybod o ble bydd eu pryd nesaf yn dod, ac mae plant yn marw oherwydd diffyg maeth.

Bydd Llywodraeth y DU yn cyfateb rhoddion gan aelodau o'r cyhoedd yn y DU hyd at gyfanswm o £5 miliwn mewn arian cyfatebol

Yng nghanol y gwrthdaro, mae aelodau asiantaeth y DEC wedi cyrraedd miliynau o bobl yn y wlad yn barod gyda chymorth, bwyd a thriniaethau i drin diffyg maeth, ond mae angen gwneud mwy i gyrraedd y rhai sydd angen cymorth fwyaf.

Dywedodd Cadeirydd DEC Cymru Kirsty Davies-Warner: “Mae’r amser wedi dod i achub bywydau yn Yemen cyn iddi fod yn rhy hwyr.

"Plant sy’n wynebu’r risg mwyaf o newyn – mae angen triniaeth ar frys ar gyfer diffyg maeth ar bron i hanner miliwn o fabanod a phlant ifanc.

"Mae asiantaethau’r DEC yn darparu triniaeth ar gyfer diffyg maeth, yn cynnal tîmau iechyd symudol, yn dosbarthu bwyd ac arian ond maen nhw angen arian er mwyn gallu cyrraedd mwy o bobl.”

Y mae’r elusennau sy’n aelodau o’r DEC, gan gynnwys y Groes Goch, CARE International, Islamic Relief, Oxfam, Achub y Plant – yn gweithio ar draws y wlad gyfan yn barod, tra bod eraill yn cynllunio i gefnogi gweithgaredd partneriaid sydd eisoes yn gweithio yn Yemen.

Gan siarad i gefnogi’r apêl, dywedodd y Prif Weinidog Carwyn Jones: “Heddiw yn Yemen, mae pobl angen cymorth brys. Mae plant yn marw o ddiffyg maeth ac mae miliynau o bobl sydd ddim yn gwybod o ble bydd eu pryd nesaf yn dod.

“Er gwaetha’r gwrthdaro, mae cymorth dyngarol sydd yn achub bywydau megis bwyd, dwr a chyflenwadau meddygol yn dal i gael ei ddarparu. Ond mae angen mwy o gyfraniadau nawr er mwyn atal miloedd yn fwy o farwolaethau.”

I roi rhodd i Apêl Argyfwng Yemen DEC, ewch i http://www.dec.org.uk, ffoniwch y llinell gymorth 24-awr ar 0370 60 60 900, rhoddwch gyfraniad dros y cownter mewn unrhyw fanc stryd fawr neu swyddfa bost, neu gyrrwch siec. Gellir rhoi cyfraniad o £5 trwy decstio’r gair HELPU i 70000.

I dderbyn y diweddaraf am ddatblygiadau yn Yemen, yr ymateb argyfwng â’r ymgyrch codi arian gan DEC, ewch i http://twitter.com/deccymru neu  http://www.facebook.com/DECCymru

Rhannu |