Mwy o Newyddion
Pleidlais Gwobrau’r Selar ar agor
Mae pleidlais gyhoeddus gwobrau cerddorol blynyddol cylchgrawn Y Selar bellach ar agor.
Cyhoeddwyd hefyd bod tocynnau cynnar ar gyfer noson Gwobrau’r Selar, sy’n un o ddigwyddiadau mwyaf y calendr cerddoriaeth cyfoes Cymraeg, ac sy’n cael ei gynnal ar 18 Chwefror yn Aberystwyth, bellach ar werth.
Ers dechrau Tachwedd mae’r Selar wedi bod yn gwahodd enwebiadau ar gyfer 12 categori y gwobrau, ac mae Panel Gwobrau’r Selar sy’n gymysgedd o gyfranwyr a darllenwyr y cylchgrawn, wedi dewis rhestrau hir ar sail yr enwebiadau hynny.
Mae’r penderfyniad terfynol ynglŷn â’r enillwyr nawr nôl yn nwylo’r cyhoedd, ac mae cyfle i unrhyw un fwrw eu pleidlais rhwng hyn a 8 Ionawr. Mae modd pleidleisio ar dudalen Facebook Y Selar neu trwy ddilyn y ddolen yma.
Pob pleidlais yn cyfri’
“Yn ôl yr arfer rydan ni am weld cymaint â phosib o bobl yn pleidleisio dros yr enillwyr i sicrhau bod y gwobrau’n adlewyrchu barn y cyhoedd,” meddai trefnydd y Gwobrau, Owain Schiavone.
“Dros y blynyddoedd rydym wedi addasu rhywfaint ar y drefn bleidleisio, ac ar sail profiad y gorffennol mae cynnig rhestrau hir ar gyfer y categorïau’n ei gwneud yn haws denu pleidleisiau, ac yn golygu llai o wastraff pleidleisiau dros gynnyrch anghymwys.
“Mae wedi bod yn flwyddyn wych arall o gerddoriaeth Gymraeg gyfoes, ac mae nifer o’r categorïau’n debygol o fod yn agos iawn, felly mae pob pleidlais yn cyfri. Y gynulleidfa ydy’r bobl bwysicaf i’r sin, a dwi’n gwybod bod yr artistiaid yn parchu eu barn ac yn gwerthfawrogi eu cefnogaeth."
Am y bumed flwyddyn yn olynol mae digwyddiad byw yn cael ei gynnal i wobrwyo’r enillwyr, ac er mwyn rhoi cyfle i’r gynulleidfa ddathlu gyda nhw.
Bydd artistiaid gorau’r sin yn perfformio ar lwyfan Undeb Myfyrwyr Aberystwyth ar ddydd Sadwrn 18 Chwefror, ac mae disgwyl bydd cynulleidfa 1000 o bobl yn heidio i’r digwyddiad.
Mae tocynnau ar werth nawr o wefan Y Selar am y pris cynnar o £12, gyda’r pris yn codi i £15 yn nes i’r dyddiad.
Llun: Sŵnami o Ddolgellau, enillwyr mawr y noson. Roedd 'na bedair gwobr iddyn nhw gan gynnwys y Band Gorau a'r Gân Orau (Llun: Y Selar / Celf)