Mwy o Newyddion

RSS Icon
12 Rhagfyr 2016

Ymgynghoriad ar ddyluniad gorsaf bŵer niwclear newydd yn agor.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru ac Asiantaeth yr Amgylchedd yn ymgynghori ar eu hasesiad o ddyluniad  gorsaf bŵer niwclear newydd gan Hitachi-GE.

Mae’r ymgynghoriad, a lansiwyd heddiw (Dydd Lun, 12 Rhagfyr) yn edrych ar ddyluniad Hitachi-GE o Adweithydd Dŵr Berw Uwch y DU (UK ABWR).

Mae Pŵer Niwclear Horizon yn bwriadu adeiladu a gweithredu’r dyluniad yma yn Wylfa Newydd ar Ynys Môn ac yn Oldbury, De Swydd Gaerloyw.

Mae CNC ac Asiantaeth yr Amgylchedd yn gweithio’n agos gyda’r Swyddfa Reoleiddio Niwclear i asesu derbynioldeb dyluniadau newydd o orsafoedd pŵer niwclear mewn proses o’r enw Asesiad Dyluniad Generig (GDA).

Mae’r broses yma yn helpu sicrhau bod unrhyw orsafoedd niwclear newydd a adeiladir yn y DU yn cyrraedd safonau uchel o safbwynt diogelwch, sicrwydd, amddiffyn yr amgylchedd a rheoli gwastraff.

Os yw’r dyluniad yn dderbyniol, bydd hefyd yn helpu datblygwyr i osgoi oedi ariannol ac amser posib yn ystod y cyfnod adeiladu.

Mae’r ymgynghoriad yma yn cyflwyno darganfyddiadau’r rheoleiddwr hyd yma ac yn adnabod ble mae angen i Hitachi-GE wneud gwaith pellach.

Bydd gwybodaeth o’r cyflwyniad technegol a darganfyddiadau drafft y rheoleiddwr hefyd yn cael eu defnyddio gan Horizon fel rhan o geisiadau trwydded amgylcheddol ar gyfer Wylfa Newydd.

Dywedodd Tim Jones, Cyfarwyddwr Gweithredol CNC yng Ngogledd a Chanolbarth Cymru: “Ein bwriad yw sicrhau bod adnoddau naturiol Cymru yn cael eu cynnal yn gynaliadwy, yn cael eu hybu a’u defnyddio.

"Yn Wylfa Newydd byddwn yn gwneud hyn mewn tair ffordd: asesu dyluniad yr adweithyddion, penderfynu ar drwyddedau amgylcheddol penodol ar gyfer y safle a darparu cyngor i fudiadau eraill ynglŷn â’r penderfyniadau y mae angen iddynt eu gwneud. Yr ymgynghoriad yma yw cam cyntaf y broses.

“Ein Gwaith ni yw sicrhau bod unrhyw orsaf bŵer niwclear newydd yn cyrraedd safonau uchel o safbwynt amddiffyn yr amgylchedd a rheoli gwastraff, gan sicrhau bod ein cymunedau yn ddiogel rhag niwed i’r amgylchedd.”

Yn dilyn yr ymgynghoriad, bydd CNC ac Asiantaeth yr Amgylchedd yn ystyried pob ymateb i’r ymgynghoriad yn ofalus, yn cwblhau eu hasesiad manwl ac yn dod i benderfyniad ynglŷn â derbynadwyedd dyluniad.

Mae’r ymgynghoriad bellach yn fyw ar  http://naturalresources.wales/about-us/consultations/our-own-consultations/?lang=cy a bydd yn rhedeg am 12 wythnos tan 3 Mawrth 2017. 

Rhannu |