Mwy o Newyddion

RSS Icon
12 Rhagfyr 2016

Trwyddedu'r tacsi trydan cyntaf yn Sir Gaerfyrddin

Mae Andrew Paul Morgans o AJ’s Taxis, Trem y Parc, Llanelli, wedi cael trwydded ar gyfer Car Trydan Nissan Leaf.

Gofynnodd Mr Morgans i gyfarfod o bwyllgor trwyddedu'r cyngor sir heddiw ganiatáu eithriad o'r amod trwyddedu sy'n nodi bod yn rhaid bod gan gerbyd hacnai injan 1200cc o leiaf.

Nododd adroddiad gan yr uwch-swyddog trwyddedu, Justin Power: “Mae gan y cerbyd hwn becyn batri lithiwm-ion 24kwh neu 30kwh datblygedig y gellir ei ailwefru, sydd wedi'i gynllunio i ddarparu pŵer glân a dibynadwy, ac felly nid yw'n bodloni amod presennol y drwydded o ran maint yr injan.

“Mae'r cerbyd hwn yn cydymffurfio'n llawn â holl amodau eraill y drwydded ar gyfer cerbyd hacnai.”

Dywedodd Mr Morgans wrth y pwyllgor: “Roeddem yn chwilio am y car mwyaf economaidd a chydnaws â'r amgylchedd a daeth y car hwn i'r brig. Mae cwmnïau tacsis ledled y DU yn defnyddio'r car hwn yn llwyddiannus. Ni fydd y cyntaf yn yr ardal hon.”

Dywedodd y Cynghorydd Jim Jones, yr aelod o'r bwrdd gweithredol dros ddiogelu'r cyhoedd a'r amgylchedd: “Mae'n gyffrous iawn bod gan Sir Gaerfyrddin ei thacsi trydan trwyddedig cyntaf.

“Rwyf wrth fy modd bod AJ’s Taxis yn credu bod cael un o'r cerbydau arloesol hyn sy'n gydnaws â'r amgylchedd yn gwneud synnwyr i'w busnes a'u bod wedi manteisio ar y cyfle i'w ychwanegu at eu fflyd.” 

Rhannu |