Mwy o Newyddion

RSS Icon
09 Rhagfyr 2016

Datgelu’r cynlluniau ar gyfer gwesty dros dro cyntaf Cymru

Datgelwyd y cynlluniau i lansio gwesty bach a fydd yn ymddangos dros dro mewn tri lleoliad cyfrinachol a thrawiadol yng Nghymru y flwyddyn nesaf.

Mae’n rhan o Hafan Epic, sef gwesty cwbl unigryw a fydd yn dathlu Blwyddyn Chwedlau Cymru 2017 drwy adael i bobl fwynhau’r tirweddau a’r profiadau gorau sydd gan Gymru i’w cynnig wrth aros mewn un o wyth caban pwrpasol wedi’u dylunio’n arbennig ar gyfer y prosiect.

Bydd llai na 200 o archebion ar gael, sy’n golygu mai criw bach fydd yn cael y cyfle i aros yn y tri lleoliad gyda golygfeydd heb eu tebyg o dirwedd Cymru.

Yn ystod eu harhosiad, byddant yn cael profiadau Cymreig unigryw wedi’i hysbrydoli gan eu lleoliad – o bysgota môr a blasu cwrw i gael prydau bwyd wedi’u paratoi gan gogyddion arbennig o Gymru.

Mae Hafan Epic wedi datgelu dyluniadau’r cabanau ‘boutique’ safonol a ysbrydolwyd gan chwedlau Cymru a’i gorffennol – o dreftadaeth ddiwydiannol enwog y wlad i stori’r Brenin Arthur.

Dewiswyd y dyluniadau drwy dendr cystadleuol a oedd yn gwahodd penseiri o bob rhan o'r byd i ddylunio unedau glampio unigryw ar thema chwedloniaeth, traddodiadau a harddwch Cymru.

Mae dau o'r dylunwyr a ddewiswyd yn dod o Gymru. Mae Timber Design Wales o Aberystwyth wedi dechrau gweithio ar uned a ysbrydolwyd gan lygad y ddraig, tra bo Rural Office for Architecture Ltd o Gastellnewydd Emlyn yn creu caban wedi’i ysbrydoli gan het Ladi Gymreig gyda tho crwm er mwyn gallu gweld y sêr.

Mae’r prosiect Hafan Epic yn bartneriaeth rhwng Y Gorau o Gymru, Teithiau Cambria a Phenseiri George + Tomos, ac mae’n cael ei ariannu’n rhannol gan Gronfa Arloesi Cynnyrch Twristiaeth Llywodraeth Cymru.

Dywedodd cyfarwyddwr Y Gorau o Gymru, Llion Pughe: "Mae’n bleser eithriadol gennym gael cyhoeddi'r dyluniadau ar gyfer unedau glampio Hafan Epic.

“Gyda thri lleoliad anhygoel, rhaglen gyffrous o weithgareddau ac wyth adeilad unigryw, bydd Hafan Epic yn dathlu'r gorau sydd gan Gymru i'w gynnig yn ystod 2017 - sef y Flwyddyn Chwedlau.

"Mae ein cariad at Gymru a’i hanes wedi bod yn ffynhonnell wych o ysbrydoliaeth i'r prosiect yma, ac edrychwn ymlaen at roi cyfle i’r gwesteion ddeffro i Gymru yn y gwesty glampio dros dro cyntaf yn y wlad."

Mae Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Seilwaith, wedi croesawu'r cynlluniau ar gyfer Hafan Epic, gan ddweud: "Mae strategaeth dwristiaeth Cymru yn pwysleisio bod angen creu llety arbennig o safon uchel ar gyfer ymwelwyr.

“Mae dyfodiad Hafan Epic, a’r podiau glampio unigryw, yn caniatáu i bobl brofi Cymru mewn ffordd hollol newydd.

“O westai celf a chestyll i westai ffasiynol a llefydd gwely a brecwast bach, mae Cymru yn cynnig amrywiaeth eang o ddewis o lety cyffrous.

"Mae dyfodiad ein gwesty glampio dros dro yn creu’r posibilrwydd ychwanegol o ddenu ymwelwyr o bell ac agos i brofi ein tirwedd a’n treftadaeth anhygoel.”

I gael rhagor o wybodaeth am y prosiect neu i gofrestru eich diddordeb mewn bwcio, ewch i hafanepic.cymru. Gallwch gofrestru i wneud yn siŵr eich bod ymhlith y rhai cyntaf i gael yr wybodaeth ddiweddaraf o ddechrau mis Ionawr ymlaen, gan gynnwys sut a phryd y gellir bwcio.

Rhannu |