Mwy o Newyddion

RSS Icon
09 Rhagfyr 2016

Pryderu am ddyfodol Ysgol Dysgu Gydol Oes Prifysgol Bangor

Mae'r newyddion fod Prifysgol Bangor yn ystyried cau'r Ysgol Dysgu Gydol Oes yn pryderu Siân Gwenllian, Aelod Cynulliad Arfon yn fawr ac mae hi wedi gofyn am gyfarfod brys efo'r Brifysgol i drafod y sefyllfa.

Meddai: “Yn gyntaf, hoffwn ddeall beth fydd yn digwydd i fyfyrwyr sydd newydd ddechrau ar eu cyrsiau yn yr Ysgol.

"Yn ail, hoffwn ddeall beth yw oblygiadau'r cau i bobl o'r ardal sydd yn dymuno ymuno a'r byd addysg uwch yn hwyrach mewn bywyd neu'n dymuno astudio yn rhan-amser er mwyn cyd-fynd a'u hamgylchiadau byw.

"Byddaf yn chwilio am sicrwydd na fydd pobl o'r ardal sy'n dymuno astudio cyrsiau addysg uwch yn hwyrach mewn bywyd yn colli allan yn sgil unrhyw newidiadau.

"Yn drydydd, hoffwn sicrwydd y bydd rheolwyr y Brifysgol yn trafod y newid yn fanwl efo staff yr Ysgol gan wrando yn astud ar eu barn cyn dod i unrhyw benderfyniadau.

"Rydym yn byw mewn oes lle mae toriadau ariannol yn cael eu gorfodi arnom yn gwbl ddi-drugarog gan y Torïaid yn San Steffan ac mae gan hynny oblygiadau i brifysgolion yn ogystal ag i wasanaethau cyhoeddus ar draws Cymru.

"Ar ben hyn, mae Llywodraeth Llafur Cymru wedi bod yn tanariannu prifysgolion ein gwlad - gyda prifysgolion Cymru yn derbyn 23% yn llai na phrifysgolion Lloegr.

"Mae Plaid Cymru wedi gallu sicrhau na fydd toriadau pellach i'r sector addysg uwch yng nghyllideb 2017-18 ond mae'r sefyllfa yn parhau yn heriol iawn. Ar ben hyn mae'r bleidlais i adael yr Undeb Ewropeaidd yn creu ansicrwydd mawr.

"Mae Plaid Cymru yn credu fod addysg uwch yn gwbl greiddiol i ffyniant economaidd ein gwlad a phetae'r Blaid mewn llywodraeth, byddai addysg uwch yn cael blaenoriaeth ac yn cael ei ariannu'r deg."

Ychwanegodd Llyr Gruffydd AC, Ysgrifennydd Cysgodol Plaid Cymru ar Addysg: “Mae’r newyddion am fwriadau’r Brifysgol i gau’r Ysgol Dysgu Gydol oes ynghyd â dau gwrs arall yn bryderus.

"Cyn i’r Brifysgol fynd ymhellach mae’n rhaid iddynt gynnal ymgynghoriad llawn gyda phawb sydd ynghlwm â’r Ysgol a’r cyrsiau yma, wedi’r cyfan mae’r penderfyniad yn debygol o gael effaith sylweddol ar fyfyrwyr, staff, a’r gymuned.

"Hoffwn hefyd weld y dystiolaeth sy’n sail i’r argymhellion. Byddaf yn cysylltu â’r Brifysgol ar fyrder i ofyn am y wybodaeth yma a chael trafodaeth am yr argymhellion."

Mewn ymateb dywedodd llefarydd ar ran y brifysgol: “Mae Prifysgol Bangor yn cynnal adolygiad eang o’i gweithgareddau er mwyn gallu ymateb i’r newidiadau sy’n ei hwynebu dros y blynyddoedd nesaf ym maes Addysg Uwch, ac er mwyn  gosod ei sefyllfa ariannol hirdymor ar seiliau cadarnach.

"Mae’r Brifysgol yn gweithredu fel hyn gyda golwg ar ddiogelu ei henw da am waith dysgu ac ymchwil o’r ansawdd gorau.

"Bydd yr adolygiad yn creu cyfleoedd ar gyfer buddsoddiad yn y dyfodol mewn rhaglenni academaidd hen a newydd, yn ogystal â chyfleusterau gwell a fydd yn sicrhau fod Bangor yn parhau i roi profiad i’w myfyrwyr sy’n eu cefnogi a’u cyfoethogi."

Dywedodd y Dirprwy i’r Is-ganghellor, Yr Athro David Shepherd: “Mae ein dull o weithio yn anelu at sicrhau bod ein gweithgareddau yn cydweddu’n dda ag amcanion ein cynllun strategol ar gyfer 2015 - 2020.

"Yn ystod y misoedd nesaf, byddwn yn ceisio adnabod ffyrdd gwahanol o ddefnyddio’n hadnoddau i'n galluogi i ymateb i gyfleoedd newydd i gwrdd ag anghenion myfyrwyr mewn addysg uwch, gan sicrhau ar yr un pryd, ein bod yn gweithredu mewn modd mor effeithlon â phosib.

"Amcan allweddol yn ystod y cyfnod hwn fydd defnyddio ein hadnoddau mewn ffyrdd gwahanol er mwyn gallu parhau i ymateb i anghenion y Brifysgol, ein myfyrwyr a’r rhanbarth.

"Yn y cyd-destun hwn, mae’r Brifysgol yn ystyried ffyrdd newydd posib o ddarparu addysg i oedolion a rhaglenni Celfyddydau Cain.

"Rydym yn awyddus i weld y rhaglenni hyn yn cael eu darparu mewn ffordd sy’n sicrhau eu bod yn parhau ar gael yn y rhanbarth, gan ryddhau adnoddau a chapasiti yn y Brifysgol ar yr un pryd.

"Rydym yn archwilio dulliau newydd o ddarparu’r rhaglenni hyn gyda Grŵp Llandrillo Menai a thrwy ffyrdd mewnol eraill. Ein nod yw sicrhau parhad y ddarpariaeth i fyfyrwyr presennol a pharhad y rhaglenni ar gyfer y dyfodol.  

"Mae hi wedi bod yn glir fod y galw gan fyfyrwyr am raglen radd sengl mewn Archaeoleg wedi bod ar i lawr ym Mhrifysgol Bangor ac yn genedlaethol.

"Mewn ymateb i hynny, mae’r Brifysgol wedi bod yn ystyried sut y gall barhau i gynnig cyrsiau Archaeoleg mewn modd addas.

"Mae’r trafodaethau hyn yn ymwneud â’r rhaglen radd sengl yn unig, a does dim newidiadau yn cael eu cynnig i raglenni cyd-anrhydedd na chyrsiau ôl-radd.

"Bydd y Brifysgol yn sicrhau y bydd darpariaeth briodol yn ei lle ar gyfer myfyrwyr cyfredol ar y rhaglen anrhydedd sengl i’w galluogi i gwblhau eu gradd.

Mae ail-edrych ar strwythur y cwrs Archaeoleg yn adlewyrchu ein hymrwymiad i gynnal ein statws arweiniol fel Prifysgol sy’n darparu rhaglenni ardderchog o fewn y Celfyddydau a’r Dyniaethau.

"Yn ystod y cyfnod diweddar, mae’r ymrwymiad hwn wedi arwain at ail-gyflwyno rhaglenni mewn Athroniaeth a Chrefydd a gwaith ail-ddatblygu sylweddol ar adeiladau’r Ysgol Cerddoriaeth."

Rhannu |