Mwy o Newyddion

RSS Icon
09 Rhagfyr 2016

Gweu Siwmper Nadolig i Caio'r Ceffyl

Mae pob math o baratoadau cyffrous “ar y gweill” ar gyfer dathlu Diwrnod Siwmper Nadolig Achub y Plant eleni ar ddydd Gwener, 16 Rhagfyr.

Ac am y tro cyntaf yn hanes yr elusen mae siwmper Nadolig arbennig wedi ei gweu ar gyfer ceffyl!

Mewn cydweithrediad gyda rhaglen Bore Cothi BBC Radio Cymru, gosodwyd her i’r cyhoedd fynd ati i weu sgwariau ar thema Nadoligaidd i greu siwmper ar gyfer Caio, ceffyl y gantores, y gyflwynwraig a’r actores Shân Cothi.

Bu’r ymateb yn wych a derbyniwyd cannoedd o sgwariau o bob lliw a llun.

Nod Diwrnod Siwmper Nadolig Achub y Plant yw codi arian ar gyfer cefnogi gwaith yr elusen yn rhyngwladol a hefyd yma yng Nghymru.

Gofynnir i bawb wisgo siwmper ddwl a chyfrannu £2 tuag at waith yr elusen (£1 os mewn ysgol) gyda’r holl arian a gesglir yn mynd tuag at helpu plant mwyaf bregus y byd; boed hynny'r rhai sy’n byw mewn gwersylloedd i ffoaduriaid neu ardaloedd rhyfelgar, yn dioddef o newyn neu drychineb naturiol, neu’n profi effeithiau tlodi yma yng Nghymru.

Cyflwynwyd y siwmper i Shân ar raglen Bore Cothi ac roedd ei hymateb yn heintus: “Doedd gen i ddim syniad beth i’w ddisgwyl wrth agor y parsel ac yna fe weles i'r ffrwydrad o liw a sgwariau gyda llunie o goed Nadolig a dynion eira ac addurniadau Nadolig arnyn nhw.

"Roedd y cyfan wedi ei roi at ei gilydd mor gywrain gydag enw Caio hefyd wedi ei wau arni a hyd yn oed breichiau i fynd o amgylch ei goesau!

"Mae Caio a finne yn dwli arni!” meddai Shân a sefydlodd ei elusen ei hunan ‘Amser Justin Time’ yn 2008 i godi ymwybyddiaeth o Gancr y Pancreas er cof am ei gŵr.

“Rwy’n gwybod fy hunan pa mor hael y gall pobl fod wrth gefnogi elusennau ac mae’n amlwg fod y syniad yma wedi cydio yn nychymyg y gwrandawyr,” ychwanegodd.

Ewch i http://christmasjumperday.org  am fwy o wybodaeth gyda phecynnau codi arian yn y Gymraeg ar gael.

I weld fideo a lluniau o Caio yn gwisgo ei siwmper ewch i dudalennau Facebook Achub y Plant-Cymru a BBC Radio Cymru a chyfrifon Twitter @savechildrencym ac @bbcradiocymru.

Rhannu |