Mwy o Newyddion
S4C yn cyhoeddi fod ei Brif Weithredwr yn gadael ei rôl ar ddiwedd 2017
Mae S4C wedi cyhoeddi y bydd ei Brif Weithredwr, Ian Jones yn rhoi’r gorau i’w swydd tua diwedd 2017, yn dilyn cwblhau adolygiad annibynnol o’r Sianel gan Lywodraeth y DU.
Mae Ian Jones, a fydd wedi bod yn ei swydd am 6 mlynedd erbyn iddo adael, yn bwriadu parhau i weithio yn y diwydiant teledu ac am rannu ei amser gwaith rhwng y DU a San Francisco ar arfordir Gorllewinol yr UDA, lle mae ei bartner wedi ymgymryd â swydd newydd yn ddiweddar.
Dywedodd Ian Jones: "Mae fy 6 mlynedd yn S4C yn ddiwedd cyfnod gyda’r sianel sy’n dyddio nôl i ddechrau fy ngyrfa.
"Mae wedi bod yn gyfnod o newid parhaus, llawn heriau, ac mae wedi bod yn fraint i weithio gyda chriw angerddol a thalentog a rhai o bobl mwyaf talentog y diwydiant.
"Ym 1982 roeddwn yn rhan o’r tîm a lansiodd S4C, cyn ail-ymuno fwy na 30 mlynedd yn ddiweddarach fel Prif Weithredwr.
"Rwy’n hyderus fod gan y diwydiant cynhyrchu annibynnol yng Nghymru y dalent, yr ymroddiad a’r angerdd i wireddu cam nesaf hanes S4C.
"Mi fyddaf wir yn gweld eisiau’r rôl ond yn fwy na hynny fe fyddaf yn gweld eisiau’r bobl.”
Dywedodd Huw Jones, Cadeirydd Awdurdod S4C “Mae Ian wedi arwain S4C trwy gyfnod o newid sylweddol, gydag egni ac ymroddiad.
"Mae wedi ennill ffydd y diwydiant teledu yng Nghymru, yn ogystal â gwleidyddion o bob plaid, ac wedi bod yn allweddol wrth greu partneriaeth newydd hynod gynhyrchiol gyda’r BBC.
"Mae wedi delio gyda thoriadau ariannol sylweddol, tra’n sicrhau fod y gwasanaeth a ddarperir i’r cyhoedd wedi bod o ansawdd uchel iawn.
"O dan ei arweiniad, mae S4C wedi cymryd camau pwysig wrth ddatblygu presenoldeb ar-lein ac ar draws y DU.
"Rydym yn falch y bydd yn parhau yn ei swydd er mwyn arwain cyfraniadau S4C i’r adolygiad annibynnol sydd i’w gynnal flwyddyn nesaf, ac mi fydd yr amserlen sydd wedi ei chytuno ar gyfer ei ymadawiad yn rhoi cyfle i’w olynydd i gydio yn yr awenau mewn da bryd ar gyfer yr adleoli i Gaerfyrddin yn 2018.”
Yn gynharach eleni fe gyhoeddodd Llywodraeth y DU fwriad i gynnal adolygiad annibynnol o gylch gorchwyl ac ariannu S4C i’w gynnal yn dilyn adnewyddu Siarter y BBC yn hanner cyntaf 2017.
Llun: Ian Jones