Mwy o Newyddion
![RSS Icon](../../../../../../../creo_files/css_themes/default/standard_icons/icon-rss-2.gif)
![](../../../../../../../creo_files/upload/article/Ruth-ac-Ellis.jpg)
AC Arfon yn hyrwyrddo gyrfa mewn gofal hosbis plant
Mae Plaid Arfon yn hyrwyddo'r ymgyrch You Can Be That Nurse yn ystod eu Bore Coffi Nadoligaidd heddiw sy'n codi arian i hosbis plant Tŷ Gobaith.
Mae'r ymgyrch - a lansiwyd gan yr elusen Together For Shorter Lives sy'n cynrychioli hosbisau fel Tŷ Gobaith - yn galw ar i nyrsys ystyried gyrfa mewn gofal diwedd oes i blant, ac yn tynnu sylw at y boddhad sydd ynghlwm â'r swydd.
Mae prinder nyrsus ym maes gofal diwedd oes i blant yn cael effaith negyddol ar safon y gofal sy'n gallu cael ei gynnig i blant a'u teuluoedd.
Mae Bore Coffi Nadoligaidd Plaid Cymru yn codi arian i hosbis plant Tŷ Gobaith yn Nyffryn Conwy sydd yn gwasanaethu mwy na 80 o deuluoedd ar draws gogledd Cymru.
Bydd yr arian a godir yn mynd i Dŷ Gobaith yn enw Elis Wynne Griffiths o Lanrug, mab bach Ruth a Bryn Griffiths, a gafodd ofal ardderchog gan nyrsus Tŷ Gobaith drwy gydol ei oes fer, gan gynnwys gofal diwedd oes fan fu farw yn ddwy oed.
Meddai Ruth Griffiths: "Mi fyddwn ni'n ddiolchgar am byth i nyrsus Ty Gobaith am eu gofal a'u cariad.
"Roedd Elis wrth ei fodd yn mynd i Ty Gobaith - mae'n le llawn hwyl a hapusrwydd, a ddim yn drist o gwbl.
"Mae gan bobol ddelwedd o sut le ydi hosbis plant, ond dydi o ddim fel na o gwbl, ac mae gwaith y nyrsus yn gwneud gymaint o wahaniaeth i fywydau teuluoedd fel un ni."
Dywedodd Siân Gwenllian, "Mae croeso i bawb alw heibio Swyddfa Plaid yng Nghaernarfon fory (Dydd Gwener) rhwng 12.30-14.30. Mae hon yn achos hynod bwysig a dwi'n falch iawn o fedru cefnogi."