Mwy o Newyddion
Sesiynau i roi hwb i’r Gymraeg yn y gymuned
Pa mor gadarn ydy’r Gymraeg yn eich cymuned chi? Oes ’na angen am fwy o ddigwyddiadau Cymraeg? Ydach chi’n teimlo’n hyderus i gynnal y digwyddiadau yma?
Dyma rai o’r cwestiynau fydd yn cael eu hystyried mewn cyfres o sesiynau gan Hunaniaith (Menter Iaith Gwynedd) yn ystod Chwefror 2017.
Mi fydd tri digwyddiad yn cael eu cynnal ar gyfer pwyllgorau cymunedol, neuaddau, cymdeithasau ac unrhyw un arall â diddordeb i’w cynorthwyo i roi’r Gymraeg ar y brig.
Bydd y sesiynau yn cynnwys cyflwyniad gan Menna Jones, Antur Waunfawr a Dylan Bryn Roberts, rheolwr canolfan Popdy ym Mangor, yn ogystal â chyfle i rannu syniadau ac ymarfer da.
Meddai Dafydd Iwan, Cadeirydd Hunaniaith a fydd yn arwain y sesiynau ym mis Chwefror: “Ein gobaith yw y bydd y sesiynau hyn yn helpu unigolion a grwpiau cymunedol i fod yn fwy hyderus i gynnal gweithgareddau yn Gymraeg, i roi hwb i eraill wneud yr un modd, ac i ganfod ffyrdd o ddenu pobl newydd i mewn i’r gweithgareddau hyn.”
Cynhelir y sesiynau ar:
- 02 Chwefror: Canolfan Henblas, Y Bala: 6-8 yr hwyr
- 09 Chwefror: Oriel Plas Glyn y Weddw: 2-4 y pnawn
- 16 Chwefror: Antur Waunfawr: 6-8 yr hwyr
Gofynnir i unrhyw un sydd yn awyddus mynychu un o’r sesiynau i gadw lle o flaen llaw erbyn 30 Rhagfyr. I gofrestru neu am fwy o wybodaeth cysylltwch â Hunaniaith ar 01286 679452 / hunaniaith@gwynedd.llyw.cymru