Mwy o Newyddion
Cyhoeddi buddsoddiad sylweddol yn y diwydiant dur yng Nghymru
Mae'r Prif Weinidog, Carwyn Jones wedi cyhoeddi'r nesaf mewn cyfres o fuddsoddiadau sylweddol fel rhan o raglen barhaus o gefnogaeth i sicrhau dyfodol gwaith dur Tata yng Nghymru yn y tymor hir.
Mae'r pecyn a gyhoeddwyd heddiw yn cynnwys £8m tuag at fuddsoddiad o £18m yn y pwerdy a fydd yn lleihau costau ynni a'r allyriadau carbon o'r safle ym Mhort Talbot, a chynlluniau ar gyfer safle ymchwil a datblygu newydd yn Abertawe.
Dywedodd Mr Jones: "Mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio'n ddiflino ers misoedd er mwyn helpu i sicrhau dyfodol llewyrchus i waith Tata yng Nghymru.
"Rydyn ni wedi cydweithio'n agos gyda thimau rheoli Tata i ddatblygu cynllun buddsoddi a fydd yn sicrhau effeithlonrwydd ar draws safleoedd Cymru ac yn diogelu swyddi yn y dyfodol.
"Mae’n hanfodol arloesi a chadw at safonau amgylcheddol uchel er mwyn sicrhau bod y diwydiant dur yng Nghymru'n gystadleuol yn fyd-eang, a bod dyfodol iddo yn y tymor hir.
"Felly rwy'n hynod o falch o gyhoeddi'r pecyn hwn o gymorth i sicrhau bod safleoedd Tata yng Nghymru'n parhau i fod ar flaen y gâd yn y diwydiant.
"Bydd yr £18m o fuddsoddiad yn y pwerdy ym Mhort Talbot yn lleihau'r costau trydan a'r allyriadau carbon drwy ailgylchu nwyon gwastraff y broses sydd ar hyn o bryd yn dianc i'r amgylchedd.
"Mae Tata hefyd wedi cytuno i bennu De Cymru fel un o ddau brif safle Ymchwil a Datblygu yn y DU, ac yn mynd i edrych ar y posibiliadau i ddatblygu cynnyrch newydd ym Mhort Talbot.
"Mae'n cymorth ni yn elfen hanfodol o gynllun y cwmni i gynnig busnes cynaliadwy, ac mae'n dilyn cytundeb ddoe rhwng Tata a'r Undebau a'n buddsoddiad o £4m i ddatblygu sgiliau'r gweithlu.
"Mae'r cyhoeddiad heddiw yn gam pellach ymlaen tuag at ddyfodol mwy hyderus i'r diwydiant dur yng Nghymru."
Ychwanegodd y Prif Weinidog: "Yn bwysig iawn, bydd ein cefnogaeth yn dibynnu ar amodau, sydd wedi'u rhwymo yn y gyfraith, i ddiogelu swyddi a buddsoddiad mewn safleoedd yng Nghymru pwy bynnag fydd y perchnogion yn y dyfodol.
"Er bod cyhoeddiad heddiw yn bwysig ar gyfer darparu dyfodol mwy llewyrchus i'r diwydiant dur yng Nghymru, rwy'n galw hefyd ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i roi sylw ar frys i'r costau uchel am ynni yn y Deyrnas Unedig o gymharu â gweddill Ewrop.
"Yn y cyfnod sydd ohoni, mae'r mater hwn yn bwysicach nag erioed."
Dywedodd Prif Swyddog Gweithredol Tata Steel UK, Bimlendra Jha: "Mae cyhoeddiad Llywodraeth Cymru heddiw yn gyfraniad pwysig i ddatblygu dyfodol cynaliadwy i’n busnes dur yng Nghymru ac ar draws y Deyrnas Unedig.
"Mae llawer o waith i'w wneud o hyd i sicrhau bod Tata Steel UK yn gynaliadwy, ac mae gofyn i'r holl randdeiliaid wneud popeth o fewn eu gallu i alluogi'r cwmni i gyflawni ei gynllun dros y misoedd a'r blynyddoedd i ddod.
"Mae'r cyhoeddiad heddiw yn adeiladu ar y newyddion ddoe gan Tata Steel UK a'r undebau llafur ynghylch camau pellach fydd yn cael eu cymryd.
"Hoffwn i ddiolch i Lywodraeth Cymru am eu cefnogaeth barhaus i'r sector dur yng Nghymru."