Mwy o Newyddion

RSS Icon
08 Rhagfyr 2016

Y bwlch yn cau eto i ddisgyblion sy’n derbyn prydau ysgol am ddim

Mae’r bwlch rhwng disgyblion yng Nghymru sy’n derbyn prydau ysgol am ddim a’u cyd-ddisgyblion yn parhau i gau yn ôl y ffigurau swyddogol diweddaraf a gyhoeddwyd heddiw.

Yn ôl y ffigurau, er 2009, mae’r bwlch rhwng plant sy’n gymwys am brydau ysgol am ddim ac sy’n llwyddo i gael A*-C mewn cymwysterau TGAU mewn Mathemateg, Gwyddoniaeth a Saesneg a’u cyd-ddisgyblion wedi gostwng.

Mae wedi mwy na haneru mewn Gwyddoniaeth.

Mae’r Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams, wedi cyhoeddi y bydd yr arian sy’n cael ei wario ar y disgyblion ieuengaf sydd o dan anfantais i’w ddyblu.

Mae Llywodraeth Cymru am fuddsoddi mwy na £90m yn y Grant Amddifadedd Disgyblion , gan gynnwys dyblu’r cymorth a roddir i ddisgyblion dan anfantais sy’n dair ac yn bedair oed.

Mae hyn yn golygu y bydd y cymorth a fydd ar gael i’r rheini sy’n gymwys yn neidio o £300 i £600 i’r dysgwyr cymwys ieuengaf.

Gall hyn olygu y bydd tua 15,000 o ddisgyblion yn elwa ar y cynllun.

Dywedodd Kirsty Williams: “Mae’r ffigurau hyn yn dangos unwaith eto fod perfformiad disgyblion sy’n gymwys am brydau ysgol am ddim yn gwella’n gyson ac rydw i am ddiolch i blant, rhieni ac athrawon am eu gwaith caled i sicrhau hyn.

“Rydw i’n benderfynol y byddwn ni’n parhau i dorri’r cyswllt rhwng cefndir cymdeithasol plentyn a sut y mae’n ei wneud yn yr ysgol.

"Mae gwella cyrhaeddiad disgyblion sy’n derbyn prydau ysgol am ddim nid yn unig yn dda i’r disgyblion hynny’n unigol ond mae hefyd yn codi safonau’n gyffredinol.

"Dyna pam rydyn ni’n cynyddu ein buddsoddiad yn y Grant Amddifadedd Disgyblion sy’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau plant o gymunedau llai cefnog.

"Mae gennym dipyn o ffordd i fynd i wneud yn siŵr y bydd pob plentyn yn cael dechreuad teg i’w fywyd a’r un cyfle â phawb arall i lwyddo.”

Rhannu |