Mwy o Newyddion

RSS Icon
07 Rhagfyr 2016

Cydnabod Leanne mewn Seremoni Wobrwyo am yr ail flwyddyn yn olynol

Mae arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood wedi ennill gwobr wleidyddol o fri am ennill sedd y Rhondda yn etholiadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn 2016.

Wrth wobrwyo Ms Wood  fel ‘AC y Flwyddyn’, gwnaed argraff fawr hefyd ar feirniaid gwobrwyon Gwleidydd y Flwyddyn ITV Cymru 2016 gan ei ‘phenderfyniad i safleoli Plaid Cymru fel gwrthblaid ond un oedd â dylanwad dros Lywodraeth Cymru.’

Dyma’r ail flwyddyn yn olynol y cafodd AC y Rhondda, sy’n byw ym Mhenygraig, wobr yn y seremoni – llynedd, dyfarnwyd iddi wobr Gwleidydd Cymreig y Flwyddyn.

Ym Mai eleni, llwyddodd Ms Wood i wrthdroi mwyafrif Llafur o 6,739 yn 2011 i gipio’r sedd ac ennill mwyafrif o 3,459 ei hun. Yr oedd y canlyniad yn ogwydd o 21.1% i Blaid Cymru.

Wedi derbyn y wobr, dywedodd Ms Wood fod hon yn wobr i bawb a’i helpodd i greu un o’r ysgytwadau mwyaf yng ngwleidyddiaeth Cymru eleni.

“Nid oedd yn hawdd cipio’r Rhondda oddi ar Lafur,” meddai Ms Wood.  “Bu’n frwydr galed. Nid buddugoliaeth dros nos oedd hon – buom wrthi ers blynyddoedd ac fe fuom yn gweithio’n galed.

“Dywedodd rhai pobl fod hyn yn amhosib, ac mai tric gwleidyddol oedd f’enwebiad, ond gan fy mod yn byw yn y Rhondda ac mewn cysylltiad ag amrywiol gymunedau, fe wyddwn ei fod yn bosib.

“Rwyf eisiau i bobl wybod, os yw rhywun yn dweud wrthych fod eich uchelgais yn amhosib, na ddylech chi wrando ar yr amheuwyr. Daliwch at eich cred.    

“Dros amser a thros lawer ymgyrch, cafodd y blaid gefnogaeth wych gan griw o ymgyrchwyr a roddodd bopeth, ym mhob tywydd.

“Byddaf yn wastad yn ddiolchgar am yr help a gefais gan y bobl hynny yn ymgyrch y Cynulliad – maent yn gwybod pwy ydynt.

“Rwyf hefyd eisiau diolch i bobl y Rhondda am fy nghefnogi i a Phlaid Cymru.  Fe wnaethant bleidleisio dros newid ac ymddiried ynof i i wneud i’r newid hwnnw ddigwydd.”

Ychwanegodd Ms Wood: “Mae’n beth da cael cydnabyddiaeth am agwedd Plaid Cymru fel gwrthblaid.

"Efallai nad ydym mewn llywodraeth, ond yr ydym eisoes wedi sicrhau llawer o gonsesiynau gan  Lywodraeth Cymru oedd yn ein maniffesto etholiadol na fuasai wedi digwydd fel arall.

“Caiff y consesiynau hyn effaith gadarnhaol ar fywydau pobl mewn mannau fel y Rhondda.

“Hyd yn oed fel gwrthblaid, mae Plaid Cymru yn cadw ei haddewidion i bobl.”

Rhannu |