Mwy o Newyddion

RSS Icon
07 Rhagfyr 2016

Mis i fynd ar BBC Radio Cymru Mwy

Gyda mis i fynd cyn diwedd cyfnod peilot yr orsaf radio ddigidol dros dro, BBC Radio Cymru Mwy, mae BBC Cymru yn gofyn i wrandawyr barhau i leisio eu barn am y gwasanaeth tan y 3 Ionawr – diwrnod pen-blwydd BBC Radio Cymru yn 40 oed.

Mae’r orsaf dros dro wedi darlledu bob bore’r wythnos waith er 19 Medi, gan gyflwyno lleisiau cyfarwydd a newydd sbon i’r tonfeddi digidol.

Y darlledwr poblogaidd Ifan Evans sydd bellach yn llywio’r Sioe Frecwast, bob bore rhwng 7 a 10 y bore a hynny tan ddiwedd Rhagfyr.

Dywed Betsan Powys, Golygydd BBC Radio Cymru: “Eisoes ‘da ni wedi derbyn ebyst a sylwadau gwrandawyr o bob cwr o Gymru a’r rheini’n ddiddorol, yn werthfawr, yn onest, yn ymarferol – yn dipyn o bopeth.

"Gyda mis i fynd, gwrandwch, galwch heibio, a rhowch wybod i ni beth yw’r farn.  

“Mae’n naturiol hefyd, wrth i ni gyrraedd y cyfnod olaf yma i wrandawyr ofyn beth ry’n ni wedi ei ddysgu o’r peilot?

"Mae rhai o’r gwersi yn amlwg; ar yr ochr dechnegol ry’n ni wedi cael cyfle i ail-osod gwifrau a chreu cysylltiadau ond hefyd i ddeall ble mae’r gwendidau technegol o hyd, neu’r costau’n fwrn.

"Ry’n ni hefyd wedi cael cyfle i chwilio am dalent ac am leisiau newydd ac yn sicr fe fyddwn yn clywed mwy o rai o’r lleisiau yma yn y dyfodol agos ar BBC Radio Cymru.

“O ran y gwersi eraill, mae angen i ni bwyso a mesur, holi, gwrando ac  adolygu yn erbyn sawl maen prawf pan ddaw’r flwyddyn newydd.

"Yn sicr mi fyddwn yn trafod rhai o’r casgliadau hynny yn ystod y flwyddyn o ddathlu ac arloesi sydd o’n blaenau.

"Ac am flwyddyn fydd hi, wrth i ni ddathlu deugain mlynedd o’n gorsaf radio cenedlaethol cyfrwng Cymraeg.”

Ac mae BBC Radio Cymru wedi cyhoeddi y bydd elfennau o’r gwasanaeth pop-yp yn parhau ar y prif wasanaeth yn ystod blwyddyn o ddathlu pen-blwydd yr orsaf yn ddeugain oed.

Bydd gwaddol y prosiect i’w weld a’i glywed ar amserlen y brif orsaf yn ystod blwyddyn y dathlu.

Mae cynlluniau ar waith i weld y fformat pop-yp digidol yn dychwelyd ar-lein i gyd-fynd â digwyddiadau cerddorol o bwys.

Disgwylir y pop-yp cyntaf ar noson olaf Eisteddfod yr Urdd, Pen-y-bont ar Ogwr Taf Elai a’r gig mawreddog ar y maes.

Er mai’r llynedd oedd y tro cyntaf i’r gig gael ei lwyfannu, mae eisoes wedi ennill ei blwyf fel digwyddiad o bwys yn y calendr cerddorol.

Mae cynlluniau hefyd i glywed rhai o’r lleisiau hynny sydd wedi bod yn diddanu gwrandawyr BBC Radio Cymru Mwy dros y ddeufis diwethaf; bydd y digrifwr y Welsh Whisperer i’w glywed ar nosweithiau Gwener ar BBC Radio Cymru yn y flwyddyn newydd ac Elan Evans, hefyd i’w chlywed ar y tonfeddi erbyn yr haf.

Ac yn olaf, bydd yr hen a’r newydd yn dod ynghyd i gloi cyfnod BBC Radio Cymru Mwy ar yr awyr.

Ar 3 Ionawr 1977, lleisiau Hywel Gwynfryn a Gwyn Llywelyn oedd i’w clywed yn cyfarch y genedl ar donfeddi BBC Radio Cymru.

Fore dydd Mawrth, 3  Ionawr 2017, bydd BBC Radio Cymru Mwy yn ail-fyw’r bore hanesyddol hwnnw, drwy ail-ddarlledu’r oriau cyntaf o ddarlledu ddeugain mlynedd yn ôl.

Gofynnir i wrandawyr BBC Radio Cymru Mwy barhau i anfon unrhyw sylwadau yn ystod y mis olaf o ddarlledu at dweudmwy@bbc.co.uk.

Bydd cyhoeddiadau pellach am flwyddyn gyfan o ddathliadau BBC Radio Cymru maes o law.

 

Rhannu |