Mwy o Newyddion

RSS Icon
06 Rhagfyr 2016

Hybu Astro-Dwristiaeth ym Mharc Cenedlaethol Eryri

Mae Arloesi Gwynedd Wledig yn chwilio am 10 o ddarparwyr llety i gymryd rhan mewn peilot er mwyn darganfod os oes posib denu twristiaid ychwanegol i'r ardal, yn enwedig y tu allan i'r tymhorau brig.

Mae Parc Cenedlaethol Eryri wedi derbyn statws Awyr Dywyll sy'n gydnabyddiaeth ryngwladol ar gyfer ardaloedd sy'n nodedig am ansawdd eu nosweithiau serennog.

Dim ond 11 lleoliad arall ledled y byd sydd wedi derbyn yr anrhydedd yma gan y Gymdeithas Awyr Dywyll yn America.

Mae Arloesi Gwynedd Wledig eisiau darganfod os all statws Awyr Dywyll ddenu twristiaid ychwanegol i'r ardal, yn enwedig y tu allan i'r tymhorau brig.

Tyfodd astro-dwristiaeth fel sector dros y blynyddoedd diwethaf, yn cael ei yrru’n rhannol gan fwy o amlygiad ar y teledu e.e. Stargazing Live ar y BBC.

Mae ardaloedd megis y Bannau Brycheiniog, sydd hefyd â Statws Awyr Dywyll, wedi ceisio uchafu budd economaidd ac wedi ennyn brwdfrydedd a hysbysu'r sector twristiaeth er mwyn darparu profiadau seryddiaeth i dwristiaid.

Dywedodd Allan Trow a Martin Griffiths o Dark Sky Wales “Oherwydd poblogrwydd cynyddol astro-dwristiaeth yn y Bannau Brycheiniog, mae llawer o'n darparwyr llety ac atyniadau bellach yn darparu profiadau i edrych ar y sér yn arbennig ar gyfer gwesteion.

"Mae hyn wedi profi i fod yn boblogaidd iawn ac yn denu llawer o ymwelwyr y tu allan i’r tymhorau brig.”

Ar gyfer y peilot bydd Arloesi Gwynedd Wledig yn rhedeg cyfres o weithdai astro-dwristiaeth ar gyfer y busnesau, ac yn prynu offer a defnyddiau fel ysbienddrychau a siartiau craffu ar sêr, i’w defnyddio gan y busnesau twristiaeth.

Dywedodd Rachel Roberts, Swyddog Thematig Arloesi Gwynedd Wledig: “Rydym yn awyddus i dderbyn ceisiadau gan bob math o ddarparwyr llety yng Ngwynedd, sydd hefyd wedi eu lleoli ym Mharc Cenedlaethol Eryri.

"Mae hyn yn gyfle arbennig i beilota astro-dwristiaeth yng Ngwynedd a Pharc Cenedlaethol Eryri, a lledaenu gwersi a ddysgwyd ar ddiwedd y prosiect.”

Ydych chi’n ddarparwr llety yng Ngwynedd ac wedi eich lleoli ym Mharc Cenedlaethol Eryri?

Ydych chi wedi ystyried dysgu mwy am sut y gall y statws Awyr Dywyll yn Eryri ddenu ymwelwyr ychwanegol i'r ardal, yn enwedig y tu allan i'r tymhorau brig, ond yn ansicr o ran costau neu’r budd?

A fyddai gennych ddiddordeb mewn bod yn rhan o brosiect peilot i hyrwyddo’r cyfle hwn i'r sector twristiaeth yng Ngwynedd?

Mae Arloesi Gwynedd Wledig eisiau clywed gennych. Ewch i’n gwefan http://www.arloesigwyneddwledig.com am fwy o wybodaeth neu am ffurflen gais cysylltwch â Rachel Roberts ar rachel@mentermon.com neu (01766) 514057.

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau ydi Rhagfyr 16eg 2016.

Cyllidwyd y prosiect hwn drwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020 a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.  Caiff hefyd ei ran gyllido gan Awdurdod Dadgomisiynu Niwclear (NDA) a Chyngor Gwynedd.

LLUN: Llyn Tecwyn Isaf, Llandecwyn, Gwynedd. (Ffotograffydd: Aaron Warren)

Rhannu |