Mwy o Newyddion
UCAC yn ymateb i ganlyniadau profion PISA
MAE Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru wedi datgan siom dros eu haelodau nad oedd cynnydd arwyddocaol yng nghanlyniadau profion PISA 2015 (Programme for International Student Assessment) a gyhoeddwyd heddiw.
Mae canlyniadau PISA heddiw’n dangos:
- Mai Cymru yw’r wlad sy’n perfformio waethaf yn y DG (fel yn 2006, 2009 a 2012)
- Fod canlyniadau Cymru ar gyfer darllen, gwyddoniaeth a mathemateg yn waeth nag oeddent ddegawd yn ôl
- Fod Cymru nawr yn bellach ar ôl cymedr y DG ym mhob tri maes nag oeddem yn 2006
Meddai Ywain Myfyr, swyddog polisi gydag UCAC: “Er bod PISA yn fesur rhyngwladol mae angen cofio mai dim ond un mesur digon cyfyng i fesur safonau ein hysgolion yw hwn.
"Mae’n holl bwysig bod pawb yn edrych yn ofalus ar y canlyniadau yma a’u rhoi yn eu cyd-destun.”
“Mae holl bwysig nad ydy’r canlyniadau yma yn gwneud i’r Llywodraeth dynnu eu llygaid oddi ar y bêl. Eisoes mae nifer o ddiwygiadau allweddol ar y gweill sef-
- Datblygu cwricwlwm newydd i Gymru
- Diwygio cyrsiau Addysg Gychwynnol Athrawon
- Sicrhau hyfforddiant mewn swydd o ansawdd uchel ar gyfer ein hathrawon a staff addysg eraill,” ychwanegodd.
“O safbwynt PISA a’r tablau rhyngwladol, maent yn offeryn defnyddiol i wneuthurwyr y polisïau ond mae eisoes gonsensws yng Nghymru ein bod, o safbwynt polisïau addysg, yn symud yn y cyfeiriad iawn.
“Er y siom ni ddylai’r canlyniadau yma arwain at newidiadau polisïau pellach.”