Mwy o Newyddion

RSS Icon
06 Rhagfyr 2016

Arweinydd Cyngor Gwynedd yn cyhoeddi ei fwriad i sefyll lawr fis Mai nesaf

Mae’r Cynghorydd Dyfed Edwards, Arweinydd Cyngor Gwynedd ac Arweinydd Grŵp Plaid Cymru ar y cyngor wedi cyhoeddi ei fwriad i sefyll i lawr o’i swydd adeg yr etholiad Cyngor Sir nesaf ym mis Mai 2017.

Bydd hefyd yn ildio ei sedd ar Gyngor Gwynedd fel cynrychiolydd dros etholaeth Penygroes.

Cafodd ei ethol gyntaf yn 2004 gan ddod yn Arweinydd Cyngor Gwynedd yn 2008. Cyn hynny bu’n gyfrifol am addysg fel aelod o Fwrdd Cyngor Gwynedd.

Wrth gyhoeddi ei fwriad i sefyll lawr dywedodd Dyfed Edwards: “Rwyf yn ei gyfrif yn fraint fy mod wedi cael y cyfle i gynrychioli cymuned Penygroes a bod yn Arweinydd y Cyngor am bron i ddegawd.

"Rwyf o hyd wedi bod o’r safbwynt mai ymroi am gyfnod penodol i’r swydd roeddwn am wneud gan fy mod o’r farn ei fod yn bwysig i wneud cyfraniad penodol am gyfnod penodol ac yna camu i’r neilltu er mwyn rhoi cyfle i eraill wneud cyfraniad.

"Nid oedd bwriad gennyf i fod yn gynghorydd am oes.”

Yn ogystal â gwasanaethu fel Arweinydd Cyngor Gwynedd mae Dyfed hefyd wedi bod yn Arweinydd Grŵp Plaid Cymru ar Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA), gan weithredu fel Is-Lywydd ac yn bresennol llefarydd ar faterion Tai a’r Iaith Gymraeg a chyn hynny y celfyddydau, diwylliant, chwaraeon a’r Gymraeg.

Meddai: “Mae’r blynyddoedd wedi bod yn rhai cyffrous iawn, yn lleol ac yn genedlaethol.

"Gyda’r daith ddatganoli yn parhau dwi wedi rhoi pwyslais mawr ar sicrhau ein bod yn cydweithio gyda Gweinidogion Llywodraeth Cymru a Swyddfa Cymru yn San Steffan.

"Daw llwyddiant wrth estyn allan a gweithredu yn gadarnhaol yn hytrach na cheisio encilio i ynys o negyddiaeth. Serch yr heriau ariannol sydd yn ein hwynebu mae cyfle i wneud gwahaniaeth o hyd.

“Gallwn ymfalchïo yn y ffaith ein bod wedi gweithredu polisïau arloesol yng Ngwynedd e.e. ym maes y Gymraeg gyda’r Siarter Iaith Ysgolion; ym maes tai, gan ddefnyddio grym ariannol y Cyngor i weithio gyda phartneriaid ar gynllun Ymddiriedolaeth Tir Cymunedol; ym maes addysg gan sicrhau buddsoddiad sylweddol yn ein patrwm o ysgolion newydd gan geisio creu gwell amodau ar gyfer arweinyddiaeth; mae’n cais ar gyfer Safle Treftadaeth y Byd yn unigryw gan ei fod yn cwmpasu'r diwydiant llechi drwy Wynedd gyfan ac eisoes yn dal dychymyg yn genedlaethol ac yn rhyngwladol; ym maes gofal rydym wedi llwyddo i sicrhau datblygiadau tai gofal ychwanegol yn Y Bala, Bangor a Phorthmadog tra’n creu’r amodau addas i eraill barhau i fyw adref.

"Ar yr un pryd rydym wedi cofio ein cyfrifoldeb i gyd-ddyn wrth groesawu teuluoedd o ffoaduriaid o Syria a phlant sydd wedi dianc o drais a rhyfel.

“Mae awyrgylch arbennig yn perthyn i Gyngor Gwynedd - mae perthynas braf a rhwydd rhwng aelodau a swyddogion ac er ein gwahaniaethau gwleidyddol mae’r mwyafrif llethol o gynghorwyr yn cytuno ar y blaenoriaethau a’r hyn rydym am gyflawni.

"Rwyf yn hynod ddiolchgar i staff ac aelodau’r Cyngor am y cyfle i gydweithio dros y blynyddoedd.

"Yng nghanol y toriadau a’r crebachu rydym wedi llwyddo i sicrhau buddsoddiad led led Gwynedd o Blas Heli ym Mhwllheli i Storiel ym Mangor ac o Bont Briwet ym Mhenrhyndeudraeth i ysgol newydd Ysgol Bro Llifon yn Y Groeslon.

"Mae rôl llywodraeth leol yn raddol symud o fod yn ddarparwr popeth i fod yn hwylusydd ac arweinydd er mwyn gweithio mewn partneriaeth gydag eraill.

"Ac mae’n gyfnod, yn fwy nac erioed, i ni fod yn glir ynglŷn â gweithredu mewn ffordd sydd yn sicrhau gwahaniaeth er gwell i’n pobl.

“Yr hyn sydd wedi fy ngyrru ydi fy angerdd dros gyfiawnder cymdeithasol a’r Gymraeg gan weithredu mewn modd sydd yn amlygu’r cysylltiad agos rhwng y ddau. Rwyf yn optimistaidd am y dyfodol ac yn obeithiol bydd Gwynedd yn parhau wrth wraidd adeiladu’r Gymru Newydd.”

Rhannu |