Mwy o Newyddion
Canlyniadau PISA yn dangos fod Llafur wedi “methu, methu a methu eto”
Mae AC Plaid Cymru Llyr Gruffydd wedi ymateb i gyhoeddiad canlyniadau PISA (Programme for International Student Assessment) Cymru gan gyhuddo Llywodraeth Lafur Cymru o “fethu, methu a methu eto” pan ddaw’n fater o addysg.
Mae canlyniadau PISA heddiw’n dangos:
- Mai Cymru yw’r wlad sy’n perfformio waethaf yn y DG (fel yn 2006, 2009 a 2012)
- Fod canlyniadau Cymru ar gyfer darllen, gwyddoniaeth a mathemateg yn waeth nag oeddent ddegawd yn ôl
- Fod Cymru nawr yn bellach ar ôl cymedr y DG ym mhob tri maes nag oeddem yn 2006
Dywedodd yr Ysgrifennydd Cysgodol dros Addysg Llyr Gruffydd AC fod tranc safonnau addysgiadol yn ganlyniad i 17 mlynedd o Lywodraeth Lafur Cymru di-glem sydd wedi siomi athrawon a disgyblion.
Wrth ganmol gwaith athrawon ledled Cymru, dywedodd eu bod yn gorfod dioddef llwyth gwaith diangen o fawr a newidiadau anghynhyrchiol o ganlyniad i fethiannau’r Llywodraeth Lafur.
Dywedodd Llyr Gruffydd AC: “Mae canlyniadau heddiw yn dangos fod Llywodraeth Lafur Cymru wedi methu, methu a methu eto pan ddaw’n fater o sicrhau dyfodol ein plant.
“Ar ôl 17 mlynedd o lywodraeth dan arweiniad Llafur, mae Cymru yn parhau i fod ar ôl gweddill y DG o ran darllen, mathemateg a gwyddoniaeth am y pedwerydd tro yn olynnol.
“Mae canlyniadau Cymru hefyd yn waeth nag yr oeddent ddegawd yn ôl yn y tri maes, ac rydym nawr yn bellach ar ôl sgor cymedr y DG nag oeddem yn 2016.
“Mae athrawon ledled Cymru yn gwneud gwaith rhagorol mewn amodau anodd tu hwnt.
"Yn sgil y ffaith fod y llywodraeth Lafur yn gwbl ddiglem mae athrawon wedi gorfod dioddef llwyth gwaith diangen o fawr a mynd drwy newidiadau anghynhyrchiol.
“Ni ellir bod unrhyw alibi nac unrhyw esgusodion. Dyna eiriau’r Gweinidog Addysg Llafur yn dilyn y canlyniadau gwael yn 2010. Rhaid i Lywodraeth Cymru nawr wrando ar ei eiriau a wynebu gwirionedd eu methiant.
“Cyn Etholiad y Cynulliad, ymrwymodd Plaid Cymru i dorri biwrocratiaeth mewn ysgolion gan weithio gyda’r proffesiwn i sicrhau’r gweithlu athrawon mwyaf medrus yn y DG i godi safonnau a chreu mwy o gyfleoedd i’n pobl ifanc.
"Dyna ein gweledigaeth i Gymru o hyd.
“Rhaid i’r Ysgrifennydd Cabinet newydd dros Addysg nawr ddangos gweledigaeth glir a chanolbwyntio ar ddelifro.
"Rwy’n ei hannog i aros ar y trywydd hwn a gorfodi’r diwygiadau arfaethedig fydd yn adeiladu system addysg sy’n addas ar gyfer y genhedlaeth nesaf.
“Dyna’r lleiaf mae ein disgyblion, rhieni ac athrawon yn ei haeddu.”