Mwy o Newyddion

RSS Icon
06 Rhagfyr 2016

Croesawu buddsoddiad o £10miliwn ym Mhrifysgol Caerdydd

Mae Julie James, y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth wedi llongyfarch Prifysgol Caerdydd am ddenu cyllid o £10 miliwn ar gyfer Canolfan Ymchwil Gweithgynhyrchu’r Dyfodol.

Diolch i gyllid blaenorol gan Lywodraeth Cymru, fu’n gymorth i sefydlu’r Sefydliad Lled-ddargludyddion Cyfansawdd, llwyddodd Prifysgol Caerdydd a’i phartneriaid i drechu gwrthwynebiad cryf gan brifysgolion amlwg eraill, gan sicrhau y grant o £10 miliwn dros saith mlynedd gan y Cyngor Ymchwil Peirianneg a’r Gwyddorau Ffisegol (EPSRC).

Bydd hyn yn sefydlu canolfan ymchwil ar gyfer gweithcynhyrchu byd-eang ym maes Lled-ddargludyddion Cyfansawdd, a bydd yn galluogi Prifysgol Cymru i sefydlu Canolfan Ymchwil Gweithgynhyrchu’r Dyfodol sy’n aml-ddisgyblaethol, ar raddfa fawr, i fynd i’r afael â’r heriau hirdymor, mawr y mae’r diwydiannau gweithgynhyrchu yn eu hwynebu ac i helpu gyda masnacheiddio gwaith ymchwil cynnar.

Meddai Julie James, y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth:  “Mae hyn yn newyddion rhagorol i Gymru.

"Dyma’r Ganolfan EPSRC gyntaf i gael ei hariannu gan brifysgol o Gymru, a bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio i ddatblygu Clwstwr Lled-ddargludyddion Cyfansawdd  Cyntaf Ewrop ymhellach.

“Mae arloesi yn sbardun pwysig i gynhyrchiant, twf economaidd ac i wella lles hirdymor.

" Yn y cyfnod ansicr hwn, mae Cymru yn dangos yr awydd a’r arbenigedd sydd ei angen i ddatblygu yn wlad mwy arloesol a llwyddiannus, ac i hyrwyddo newid fydd yn arwain at gynhyrchiant a thwf er lles yr economi a phobl Cymru.

“Mae’r cyhoeddiad hwn yn gwella hyder y sector ac yn ategu’r £280 miliwn a gyhoeddwyd hyd yma i ddatblygu clwstwr Lled-ddargludyddion Cyfansawdd  yng Nghymru.  

“Mae’n datgan bod gan Gymru gryfderau sy’n cael eu cydnabod, ac uchelgais sydd o fewn ein cyrraedd i ddatblygu ein hamcanion drwy feithrin technolegau newydd, nid yn unig er lles Cymru, ond fel cyfraniad cryf i dwf economaidd Prydain.”

Bydd y Ganolfan yn darparu y dechnoleg sylfaenol ar gyfer gweithgynhyrchu lled-ddargludyddion cyfansawdd.

Bydd yn mynd i’r afael â dwy her yn y maes gweithgynhyrchu ac yn ariannu staff ychwanegol yn y Ganolfan Technoleg Lled-ddargludyddion Cyfansawdd. 

Rhannu |